Mae cynhyrchwyr o Gymru’n paratoi i fynd i un o’r digwyddiadau bwyd a diod mwyaf yn y byd ym Mharis yr wythnos nesaf (19-23 Hydref). Bydd gan y Salon International de l'Agroalimentaire (SIAL) 2014 fwy na 6000 o arddangoswyr o 105 o wledydd ac mae’n cael ei hystyried yn llwyfan hollbwysig ar gyfer y sector bwyd a diod i hyrwyddo eu cynnyrch i brynwyr o bedwar ban byd.

Bydd presenoldeb sylweddol o Gymru yno gydag 17 o gwmniau yn mynychu ar bafiliynau Bwyd a Diod Cymru, a phob un yn edrych i ddatblygu cysylltiadau busnes gyda phrynwyr tramor. Dywed Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, ei bod yn bwysig fod bwyd a diod o Gymru’n cael ei weld ar lwyfan byd-eang,

“Rydym i gyd yn gwybod fod ansawdd bwyd a diod o Gymru cystal â’r gorau yn y byd ac mae angen inni sicrhau ei fod yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol. Mae cael presenoldeb mewn lleoedd fel SIAL yn cyfrannu at ein huchelgais hirdymor o dyfu’r sector pwysig hwn a chyrraedd ein targed gwerthiant blynyddol o £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020. Cynyddodd ein hallforion bwyd a diod o Gymru o 16% dros y flwyddyn ddiwethaf,  a gyda’n cefnogaeth gyson drwy ddigwyddiadau fel hyn, rwy’n gobeithio y gallwn helpu adeiladu ar hyn ymhellach eleni.”  

Un o’r cynhyrchwyr sy’n gobeithio gwneud argraff felys yn Sial yw’r cynhyrchwyr surop o Gasnewydd, Clarks, ac mae gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Bob Clark obeithion uchel y bydd eu cynnyrch newydd yn gwneud argraff sylweddol ar y byd manwerthu,

“Hyd yn hyn mae pobl yn gwybod amdanom oherwydd ein surop gwiniolen hyfryd, wedi’i wneud allan o gynhwysion naturiol flasus. Yn Sial byddwn yn cyflwyno ein pwdin siocled newydd, sy’n ddigon arloesol gan nad oes rhaid ei oeri. Mae hyn yn cynnig y posibilrwydd o agor marchnad newydd sbon, marchnad fydd gobeithio’n ein rhoi ni yng Nghymru ar fap bwyd y byd. Heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hwyluso ein presenoldeb mewn digwyddiadau fel Sial byddai’n anodd iawn datblygu perthynas ymarferol gyda phrynwyr ar gyfandir Ewrop a ledled y byd – mae’n sicr yn agor y farchnad allforio – fy unig obaith yw y gallwn ddiwallu’r galw am ein potiau siocled!”  

Mae bragdy Purple Moose o Borthmadog yn enwog ledled Cymru am eu dewis arobryn o gwrw ond mae’r Cyfarwyddwr Lawrence John Washington yn gweld digwyddiadau fel y rhain yn gyfle da iawn i archwilio cyfleoedd busnes newydd,

“Ers inni agor ein bragdy yn 2005, gyda’r bwriad o wasanaethu’r Gogledd, rydym wedi ehangu’n gyflym ac erbyn hyn rydym yn cyflenwi cwrw i bob rhan o wledydd Prydain. Erbyn heddiw mae technoleg wedi’i gwneud yn haws i gyfathrebu ar lwyfan byd-eang, ond ni ddylid dibrisio’r cyswllt wyneb i wyneb mewn digwyddiadau proffil uchel fel Sial. Mae’n gyfle gwych i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru, mae ansawdd ein cynnyrch yn ddiguro, a’r gobaith yw y gallwn fynd o nerth i nerth.”

Mae’r cwmni dŵr potel o’r Canolbarth, Tŷ Nant Spring Water Ltd, yn frand cyfarwydd ledled y byd, ac mae Steve Gatto yn gwybod pa mor ddefnyddiol yw mynd i ddigwyddiadau fel Sial,

“Mae dŵr Tŷ Nant yn enw cyfarwydd erbyn hyn ond rydyn ni’n dal i gredu fod gwerth mawr mewn mynd i ddigwyddiadau proffil uchel fel Sial. Mae prynwyr o bob rhan o’r byd yno, sy’n golygu fod cyfleoedd i fynd â’ch busnes i lefel arall. I gwmnïau fel ni mae’n gyfle hefyd i gyfarfod yn bersonol â rhai o’n cwsmeriaid byd-eang a hyrwyddo rhinweddau niferus bwyd a diod o Gymru.”

Cynhelir Sial ym Mharis, Ffrainc ar 19-23 Hydref.