Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio am hwb i’w gwerthiant wedi iddynt fod yn un o ffeiriau masnach mwyaf gwledydd Prydain yn Llundain. Aeth 24 o gwmnïau i Ffair Fwyd Speciality eleni, sef y digwyddiad masnach mwyaf i’r sector, o dan faner Bwyd a Diod Cymru. Dychwelodd llawer gyda archebion hirdymor a chysylltiadau gwerthfawr, gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd pan enillodd cwmnïau o Gymru werthiannau a chontractau ychwanegol gyda phrynwyr gwerth bron i £900,000.
Cefnogwyd y presenoldeb Cymreig yn Ffair Fwyd Speciality gan Lywodraeth Cymru a phwysleisiodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, ei phwysigrwydd,
“Mae bwyd a diod o Gymru yn gwneud cyfraniad o bwys i’n heconomi, ac mae ein nod tymor hir o dyfu gwerthiant blynyddol hyd at £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020 yn adlewyrchu ein dyheadau ar gyfer y sector. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i helpu cynhyrchwyr i fynd i ddigwyddiadau fel Ffair Fwyd Speciality yn cynnig llwyfan rhagorol i’n cynhyrchwyr arddangos cynnyrch o Gymru ar ei orau. Mae’n gyfle i’r cwmnïau hyrwyddo eu cynhyrchion, a rhyngweithio’n uniongyrchol â phrynwyr.”
Un brand cyfarwydd o Gymru oedd yn arddangos eleni oedd Radnor Hills, a chaiff eu dŵr ei ridyllu’n naturiol trwy haenau o graig yng nghanolbarth Cymru. Yn ogystal â sicrhau gwerthiant newydd, mae Ffair Fwyd Speciality yn gyfle hefyd i arddangos cynnyrch newydd fel y mae Penny Butler yn esbonio,
“Gan fod dros 12,000 o bobl yn cynrychioli prynwyr a manwerthwyr yn bresennol yn Ffair Fwyd Speciality mae’n gyfle gwych i hyrwyddo cynnyrch o Gymru ac i ni mae’n gyfle i arddangos cynnyrch newydd. Yn ddiweddar lansiwyd ein cwrw sinsir newydd ar ein label Heartsease Farm, ac felly roedd yn dda cael adborth ar hynny ac rydw i’n falch o ddweud ei fod yn gadarnhaol iawn. Er bod gennym dreftadaeth Gymreig gref, mae ein marchnad yn un fyd-eang, ac mae cael presenoldeb mewn digwyddiad fel hwn yn hollbwysig er mwyn cynnal a thyfu’r busnes ymhellach yn y dyfodol.”
Cwmni arall sydd eisoes yn paratoi ar gyfer cyfnod prysur yn dilyn Ffair Fwyd Speciality 2014 yw’r cwmni pobi di-glwten, Love at First Bake, o Lanfair ym Muallt, fel y mae Teri-Ann Winslow yn esbonio,
“Bu’r ffair dri diwrnod yn ddefnyddiol iawn i ni, nid yn unig yn datblygu cysylltiadau pwysig, ond yn ennill archebion penodol. Gan ein bod yn gwmni cymharol fach, byddai wedi bod yn anodd i ni fynd i ddigwyddiad o’r fath heb gefnogaeth ariannol ac ymarferol Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y gefnogaeth hynny yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Rydym yn gyffrous iawn am fynd ati i bobi mwy na 500 o gacennau a myffins i ddiwallu’r galw newydd a mynd ar ôl yr ymholiadau gwych a gawsom!”
Un cwmni oedd yn y Ffair Fwyd am y tro cyntaf oedd VDeli o Sir Gaerfyrddin ac roedd Lisa Rees yn meddwl y bu’n fuddiol iawn iddi,
“Rwyf ond newydd fentro i gychwyn fy musnes fy hun, ac mae hynny’n golygu fy mod yn gorfod dysgu’n gyflym iawn. Helpodd y digwyddiad yn Llundain fi i ddeall yn well beth mae prynwyr yn chwilio amdano, a’r un mor bwysig oedd y cyfle i drafod gyda chynhyrchwyr eraill o Gymru beth oedd eu profiadau hwythau. Gallaf ddysgu o’r gwersi hynny a’u defnyddio yn fy musnes wrth i ni symud ymlaen.”
Cynhaliwyd Ffair Fwyd Speciality yn London Olympia ar 7-9 Medi ac arddangoswyd cynhyrchion 24 o fusnesau yng Nghymru ar stondin Bwyd a Diod Cymru.