Bu’r Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans, yn ymweld â safle Fruitapeel yn Llantrisant i weld sut mae’r cwmni’n ehangu gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Sefydlwyd Fruitapeel Ltd yn 2006. Mae’r cwmni yn arwain y diwydiant ym maes cynhyrchu suddoedd, smwddis, a sawsiau ffrwythau a melys i’r sector manwerthu a’r sector gwasanaethau bwyd. Yn ddiweddar, enillodd y cwmni Wobr Garddwriaeth Cymru, a gyflwynwyd iddynt gan y Dirprwy Weinidog yn y Ffair Aeaf y llynedd.
Cafodd y Dirprwy Weinidog daith o amgylch ffatrïoedd y cwmni a chafodd gyfle i drafod gyda’r cyfarwyddwyr am yr hyn sydd ar y gweill ganddynt ar gyfer 2015. Y bwriad yw buddsoddi mewn technoleg Prosesu Gwasgedd Uchel.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, “Yn 2010, rhoddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth i’r cwmni er mwyn iddynt brynu hen safle SunJuice. Mae Fruitapeel wedi llwyddo i ddatblygu bob blwyddyn a bellach dyma un o’r cwmnïau suddoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae hon yn stori arbennig o lwyddiant ac rwy’n siŵr y bydd gweledigaeth y cwmni ar gyfer y dyfodol yn sicrhau bod nifer o benodau eraill i ddod yn ei hanes. Edrychaf ymlaen at ddilyn ei hynt.
“Mae’r cwmni wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei gyfleusterau ar ei safle yng Nghaerdydd ac mae hynny’n rhoi boddhad mawr imi. Mae hynny’n newyddion da iawn ar gyfer yr ardal. Mae hefyd yn gyfle arbennig ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol, a hynny’n sicrhau bod budd ychwanegol i’r economi leol.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Terry Haigh “Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol ar gyfer twf Fruitapeel Ltd yn Llantrisant dros y blynyddoedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at barhau â’r berthynas arbennig sydd gennym â thîm Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru. Drwy’r berthynas honno bydd modd inni ddatblygu ein busnes ymhellach gan sicrhau ein bod ar flaen y gad yn y DU o ran cynhyrchu suddoedd a smwddis.”
Dywedodd Mark Horsman, Rheolwr Datblygu Fruitapeel, “Mae’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol inni wrth ddatblygu’r cwmni. Rydym ar fin dechrau ar gyfnod newydd yn hanes y busnes wrth inni fuddsoddi mewn technolegau newydd, arloesol. Bydd hynny’n ein caniatáu i arwain ym maes datblygu a phrosesu suddoedd a smwddis. Rydym wedi cael tipyn o gefnogaeth gan dîm a rhwydwaith Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru i’n galluogi i gyflawni hyn.”
Yn 2009, fe wnaeth Fruitapeel ad-leoli i Gymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a hynny drwy’r Gronfa Fuddsoddi Sengl a’r Grant Prosesu a Marchnata. Ers hynny, mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth a hwn yw’r cwmni cynhyrchu suddoedd a sawsiau melys sy’n datblygu gyflymaf yn y DU.
Mae’n gwmni cyfyngedig sydd bellach yn cyflogi 55 o aelodau o staff ar ei safle yn Llantrisant. Yn ystod y flwyddyn ariannol lawn ddiwethaf, roedd trosiant y cwmni yn £13.8m ac mae ganddo asedau net gwerth £2.0m. Mae gan y cwmni dair uned ar Ystâd Ddiwydiannol Llantrisant ac maent wedi buddsoddi’n helaeth mewn cyfarpar gan sicrhau bod yr unedau yn cydymffurfio â safonau hylendid bwyd.
Mae’r cwmni yn y broses o brynu offer Prosesu Gwasgedd Uchel. Disgwylir iddo gael ei osod yn Uned 8 ym Mharc Busnes Llantrisant. Mae’r buddsoddiad hyn werth oddeutu £2m a bydd tua 25 o swyddi yn cael eu creu.