Mae Neuadd Fwyd Sioe Frenhinol Cymru bob amser yn ferw o weithgaredd coginiol, ond bydd pwyslais ychwanegol eleni ar y bobl tu cefn i'r Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi ei uchelgais i dyfu'r diwydiant gan 30% erbyn 2020.

Bydd gan Neuadd Fwyd 2014 'wedd newydd', o'r amrywiaeth cynnyrch a gweithgareddau i wybodaeth a chyfleoedd ar gyfer rhai sy'n dymuno dysgu mwy am ddiwydiant sydd â chadwyn gyflenwi sy'n werth £17.3 biliwn i economi Cymru.

Bydd mwy na **60 cwmni'n cymryd rhan yn yr arddangosfa fwyd flynyddol yn creu microcosm gwirioneddol o ddiwydiant bwyd a diod Cymru o gaws i gigoedd, a gwin i deisennau.

Bydd cynhyrchwyr crefftus fel Homemade Country Preserves yno ynghyd â chynhyrchwyr fel Hufenfa De Arfon Cyf a Chwmni Caws Eryri, pob un â'r nod o hyrwyddo bwyd a diod gwych Cymru i'r byd.

Bydd cyfuniad o wynebau cyfarwydd a chwmnïau newydd i'r Neuadd Fwyd yn llenwi'r stondinau, yn cynnwys Bwyd Cymru Bodnant, Narnas, Cwmni Caws Caerfyrddin, Edwards o Gonwy, Radnor Hills Mineral Water Company Cyf, Prima Foods, Hufen Iâ Eryri, Llechwedd Meats a The Village Bakery Cyf – oedd yn ddiweddar ar frig pôl '50 Twf Cyflym' busnesau Cymru.

Mae'r Neuadd Fwyd ar agor yn ddyddiol rhwng 8am a 6pm, ac mae'n cynnig cyfle i ymwelwyr brynu dewis eang o fwydydd a diodydd - llawer ohono wedi ennill gwobrau - i gyd dan yr un to. Bydd gwasanaeth Siopa a Chasglu oeredig (meithrinfa fwyd) ar gael ar y safle ar gyfer rhai sydd eisiau gadael eu nwyddau a dod i'w nôl yn ddiweddarach.

Bydd Cegin Arddangos mewn pabell yng nghefn y neuadd lle bydd rhaglen bob dydd gyda llu o weithgareddau yn canolbwyntio ar gynnyrch Cymreig.

Bydd chefs enwog a chogyddion amatur - yn cynnwys rhai wynebau cyfarwydd ar y teledu - a gefnogir gan gynhyrchwyr yn dangos sut i gael y gorau o amrywiaeth o gynnyrch tymhorol, yn cynnwys prydau teuluol iach a rysetiau 'rhydd o' arbenigol.

Bydd hefyd arddangosiad arbennig yn rhoi sylw i goginio o Sir Faesyfed - sir nawdd Sioe Frenhinol Cymru ar gyfer 2014.

Caiff ymwelwyr gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cynnwys cystadlaethau coginio, cwis a chystadleuaeth ddyddiol i ennill hamper moethus o fwydydd a diodydd o Gymru.

Mae'r cyfle i ddod â ffigurau amlwg yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn gwneud Sioe Frenhinol Cymru yn achlysur delfrydol i arddangos y diwydiant a hefyd y cyfleoedd mewn meysydd megis cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau, addysg a phrentisiaethau.

Yn tanlinellu'r ysbryd o gydweithredu ar draws y diwydiant fydd 17* sefydliad partner fydd ag amrywiaeth eang o wybodaeth am sector bwyd a diod Cymru.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau a sesiynau gwybodaeth yn y Neuadd Fwyd drwy gydol yr wythnos ac mae lolfa fusnes newydd ar gyfer prynwyr masnach.

Mae gan yr elfennau hyn rôl allweddol yng Nghynllun Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, y rhoddir sylw iddo ym mhob rhan o'r Neuadd Fwyd.

Wedi'i lansio fis diwethaf, nod 'Tuag at Dwf Cynaliadwy - Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020' yw rhoi'r sgiliau a'r offer mae 'r diwydiant yng Nghymru, o ffermwyr i weithgynhyrchwyr, eu hangen i dyfu'n gynaliadwy a ffynnu ym marchnad heddiw.

Yn ychwanegol at hyn mae'r pwyslais ar gefnogi datblygu marchnad i feithrin a hybu arloesedd a thwf busnes mewn amgylchedd lle mae sicrwydd a diogelwch bwyd yn hanfodol.

Bydd sicrhau hunaniaeth 'Bwyd a Diod Cymru' i'r diwydiant a gaiff ei adnabod yn fyd-eang, ynghyd â sefydlu Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i gymryd perchnogaeth o'r Cynllun Gweithredu sy'n ganlyniad misoedd o ymgynghori gyda'r diwydiant ei hun, yn ganolog i lwyddiant y Cynllun Gweithredu.

Yn ogystal â gweld amrywiaeth ryfeddol o gynnyrch Cymreig, bydd ymwelwyr i'r Neuadd Fwyd yn cael blas o'r gwaith a wneir i helpu'r diwydiant bwyd a diod i gystadlu a ffynnu ar y llwyfan byd-eang. Bydd cyfle i gynhyrchwyr i gyrchu a dysgu am yr help a'r offer sydd ar gael iddynt i gyfoethogi eu mentrau a bod yn rhan o ddiwydiant bwyd a diod gwirioneddol wych Cymru.

Share this page

Print this page