Allech chi fod yn entrepreneur?
Rydych chi'n credu yr hoffech chi fod yn entrepreneur, ond sut mae gwireddu eich uchelgais? Ydych chi wedi ystyried beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd? Nid ydyn ni am godi braw arnoch chi – dim ond rhoi cyfle ichi ystyried y ddwy ochr. Nid yw byd yr entrepreneur bob amser yn fêl i gyd. Mae’n wych bod yn berchen ar eich busnes eich hun a gwneud yr holl benderfyniadau, ond mae rhedeg eich busnes eich hun yn gallu bod yn unig, ac weithiau mae'n golygu nad ydych yn gallu eich talu eich hun.
Y gwir yw, nid yw entrepreneuriaid yn oruwchddynol. Maen nhw'n bobl fel chi sydd wedi gweithio'n galed i wireddu eu dyheadau. Cawson nhw syniad roedden nhw am ei archwilio ac aethon nhw amdani. Gallwch chi ddysgu rhagor am hanesion pobl sydd wedi dechrau busnes drwy fynd i'n gwefan Syniadau Mawr: Dan Sylw, lle gallwch chi weld blogiau neu storïau newyddion neu Broffiliau ein Modelau Rôl.
Dyma rai awgrymiadau gwych a allai eich helpu i ddechrau meddwl fel entrepreneur:
Byddwch yn bositif
Mae bod yn fodlon gweld yr agwedd gadarnhaol mewn sefyllfa anodd yn sgil defnyddiol ym myd busnes. Os ydych yn gofyn i unrhyw entrepreneur bydd yn dweud wrthoch chi y bydd rhwystrau a siomedigaeth ar y ffordd. Y ffordd rydych chi'n ymdopi sy'n cyfrif. Nid yw camgymeriadau, rhwystrau a phethau sydd wedi mynd o'u lle ond yn gyfleoedd i ddysgu ac i wella’r tro nesaf.
Felly, yn hytrach na gadael i broblemau eich rhwystro chi, edrychwch am atebion. Edrychwch am ffyrdd o wella'r sefyllfa bob amser, dim ots pa mor anodd yw pethau. Mae meddu ar ymagwedd sy'n ceisio datrys problemau yn gallu eich helpu i symud ymlaen ac i adeiladu busnes llwyddiannus iawn.
Dysgwch bethau newydd
Fel arfer mae entrepreneuriaid yn agored i syniadau newydd a ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Maen nhw'n awyddus i ddysgu. Felly, beth am roi cynnig ar rywbeth newydd, fel hobi newydd neu wirfoddoli ar gyfer cyfrifoldeb ychwanegol yn y gwaith neu'r ysgol? Beth am chwilio am swydd ran amser er mwyn ennill profiad. Mae swydd ran amser yn ffordd wych o ddysgu sut mae busnes yn gweithio.
Mae profi pethau newydd yn gallu bod yn ffordd wych o feddwl am syniadau newydd, neu efallai gwelwch ffordd newydd o wneud rhywbeth. Y naill ffordd neu'r llall, byddwch chi'n ennill profiad, dysgu pethau nad oeddech chi'n eu gwybod ac yn ennill sgiliau newydd.
Byddwch yn fusneslyd
Bydd deall pam mae pobl yn prynu cynhyrchion neu wasanaethau penodol yn fanteisiol iawn pan ddaw'r amser i ddechrau a rhedeg eich busnes eich hun. Wedi'r cyfan, os ydych yn gallu sicrhau bod eich busnes yn darparu'r union beth sydd ei angen ar gwsmeriaid, byddwch chi mewn sefyllfa gref i lwyddo. Gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch teulu am eu harferion prynu. Ystyriwch pam rydych chi'n hoffi cynhyrchion a brandiau penodol. Gallech chi weld bwlch yn y farchnad neu hyd yn oed feddwl am syniad newydd ynghylch sut i gyfuno dau wasanaeth neu gynnyrch.
Pennwch nodau
Mae rhannu eich nodau busnes yn rhannau hydrin yn ffordd wych o reoli eich syniadau. Gallai tasgau gynnwys meddwl am enw neu logo ar gyfer busnes, creu gwefan ar gyfer busnes neu ddod o hyd i gyflenwyr. Cadwch gofnod o'ch cyflwyniadau a byddwch yn gallu edrych yn ôl a dysgu gwersi o bopeth rydych chi wedi'i wneud.
Peidiwch â cholli hyder
Mae hyd yn oed yr entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus wedi mynd drwy gyfnodau pan nad oedd eu syniadau'n gweithio neu pan gollon nhw arian. Beth sydd wir yn gyfrif yw'r ffordd rydych chi'n ymateb pan fydd pethau'n fwy anodd na'r disgwyl. Bydd gan bobl fusnes lwyddiannus yr ewyllys i ddod yn ôl pan fydd pethau'n mynd yn chwith. Maen nhw'n parhau i fod yn benderfynol ac yn fodlon dysgu drwy eu camgymeriadau yn ogystal â'u llwyddiannau. Nid yw enillwyr byth yn rhoi’r gorau iddo.
Beth am wylio'r fideo hwn hefyd? Gwnaethon ni gyfweld â rhai o'n Modelau Rôl i ddysgu pam penderfynon nhw fod yn hunangyflogedig, ond hefyd beth mae hynny yn ei olygu mewn gwirionedd.