Prifysgol Bangor

Dere i weld ni: Swyddfa B-Enterprising, Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Bangor

Rydym yn hyrwyddo menter ac entrepreneuriaeth ar draws y brifysgol yn ogystal â gweithio mewn canolfan ranbarthol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Rydym hefyd yn aelodau o dîm yn darparu 'Menter drwy Ddylunio' i fyfyrwyr - cwrs rhyngddisgyblaethol, lle mae myfyrwyr yn datblygu cynnyrch dros 10 wythnos i frîff a osodwyd gan arbenigwyr allanol.

Gallwn gynnig i chi:

  • Gweithdai datblygu sgiliau drwy brofiad Prifysgol Bangor
  • Gweithdai penodol cychwyn busnes
  • Cefnogaeth a chyngor cychwyn busnes un i un
  • Bwrsariaethau Menter
  • Digwyddiadau Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang
  • Cyfeiriadur ar-lein ar gyfer masnachwyr sy’n fyfyrwyr
  • Cystadlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Marchnad Nadolig Myfyrwyr
  • Gwobr fenter flynyddol 
  • Menter drwy Ddylunio

Dewch i wybod mwy yn: http://www.bangor.ac.uk/careers/students/selfemployment.php.en

Facebook: https://www.facebook.com/benterprising

Twitter: @B_Enterprising

Y tim:  Ceri Jones, Lowri Owen, Eirian Jones 01248 388424