Beth Nesaf?

Ar ôl cymryd rhan yn yr Her hon, efallai y byddwch wedi eich ysbrydoli i fod eisiau bwrw ’mlaen â’ch syniad a dechrau busnes, naill ai nawr, neu yn y dyfodol.

Dyma beth i'w wneud nesaf i'ch helpu chi ar eich taith fusnes:

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gystadlaethau, cyfleoedd a gweminarau:  Facebook | Instagram | Twitter

Cofrestrwch ar ein gwefan i dderbyn canllaw cychwyn busnes am ddim, derbyn diweddariadau ar gyfleoedd, a phan fyddwch yn barod i weld cynghorydd busnes gallwch ofyn am weld un. Cofrestrwch yma.

Dysgwch  gan bobl ifanc eraill sydd wedi cychwyn eu busnes eu hunain trwy ddarllen yr astudiaethau achos: https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/ble-i-ddechrau/syniadau-mawr-cymru-dan-sylw

Mae rhaglen Syniadau Mawr Cymru wedi’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad busnes, fel rhan o ymrwymiad Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru.