Bŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru 2024
Beth yw’r Bwtcamp Busnes?
Mae’r Bwtcamp Busnes yn gwrs preswyl dwys sy’n cyfuno hyfforddiant, gweithgareddau a chymorth i roi gwynt dan adain eich busnes.
Pryd?
Dydd Gwener 22 i ddydd Sul 24 Mawrth 2024. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 18 Mawrth 2024 am 4yp.
Ble?
Canolfan Summit, Yr Hen Bwll Drifft, Trelewis, Treharris, CF46 6RD
Bydd bysus ar gael o fannau codi neilltuol. Mae llefydd parcio hefyd ar gael ar y safle.
Ar gyfer pwy?
Os ydych chi rhwng 18 a 25 oed, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i roi gwynt dan adain eich busnes, mae’r Bwtcamp Busnes yn ddelfrydol i chi.
Beth sy’n digwydd yn y Bwtcamp Busnes?
Yn y Bwtcamp Busnes byddwn yn mynd â chi drwy'r holl sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i gychwyn eich busnes. O frandio a chyfryngau cymdeithasol, i gynaliadwyedd a phitsio, byddwn yn eich tywys trwy bopeth y gallwch ei ddisgwyl yn ystod y 12 mis cyntaf o fasnachu.
Sut bydd yn fy helpu i ddechrau busnes?
Ein nod yw eich helpu i fagu hyder, i rwydweithio ag arbenigwyr a pherchnogion busnes, ac i ddysgu popeth sydd angen ei ddysgu er mwyn lansio eich busnes. Ar ddiwedd y Bwtcamp Busnes dylech deimlo’n barod i fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf – p’un ai bod hynny’n golygu dod yn hunangyflogedig yn swyddogol neu droi menter ar yr ochr yn fusnes llawnamser.
Mae graddedigion y Bwtcamp wedi dweud wrthym eu bod wedi mwynhau gwneud ffrindiau â phobl eraill sy’n frwd dros fusnes ac sy’n deall y pwysau o fod yn hunangyflogedig.
Sut mae gwneud cais?
Llenwch y ffurflen gyswllt i’r dde i’n helpu i ddod i’ch adnabod chi a’ch syniad busnes. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd ar ôl cael eich cais – efallai y bydd angen i ni ofyn ambell gwestiwn ychwanegol i wneud yn siŵr bod y Bwtcamp yn addas i chi.
Sylwch fod lleoedd yn brin ac y bydd ymgeiswyr sy’n bellach ymlaen yn eu taith datblygu busnes yn cael eu blaenoriaethu.