Enillwyr Her Dechrau Rhywbeth Da!

Llongyfarchiadau i enillwyr ein her Dechrau Rhywbeth Da!

Eich briff oedd cyflwyno busnes cymdeithasol a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol ac roedd eich syniadau busnes manwl wedi creu argraff ar y beirniaid!

Enillwyr rhanbarthol:

Gogledd:

Categori 11-16: Te mewn Bag – Begw a Leusa, Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst (Conwy)

Gwasanaeth i'r gymuned yn cynnig Te Prynhawn mewn bag wedi'i ddanfon fyddai'n codi calon a rhoi gwen ar wynebau trigolion ein cymuned megis yr henoed a'r unig ydy syniad Begw a Leusa. Prif nod yw gael effaith bositif ar y gymuned a fyddai yn codi calonnau.

Yr elusen mae Begw a Leusa wedi’i ddewis i dderbyn £100 ywAmbiwlans Awyr Cymru  / Sefydliad DPJ 

 

Categori ôl-16: Full of Character – Maddison Spencer, Fflint

Syniad Maddison ydi darparu cymeriadau poblogaidd affordadwy i fynychu digwyddiadau ar gyfer pob oedran! Mi fysai y busnes yn rhoi cyfleodd gwaith i bobl ifanc lleol ag hefyd profiadau i’r rhai sydd eisiau gyrfa o fewn celfyddydau perfformio.

Yr elusen mae Maddison wedi’i ddewis i dderbyn £100 yw: WISP Dance Club 

Canolbarth a'r Gorllewin:

Categori: 11-16: Bone Box - Heinrich Dettmer, Bishopston Comprehensive, Abertawe

Bone Box ydy amgueddfa symydol ar gyfer ysgolion. Mae’r bocs yn cynnwys cymysgedd o esgyrn mamaliaid fel llwynog, defaid mochyn daear ag adar fel gwylan, mwyalchen, robin ayb. Mi gafodd Heinrich y syniad yn ystod Covid pan oedd methu mynychu amgueddfeydd ag felly dod a’r amgueddfa i’r dosbarth! Esgyrn anifeiliad lleol fydd yn y Bone Box er mwyn cynrhychioli bywyd gwyllt lleol i’r gymuned.

Yr elusen mae Heinrich wedi’i ddewis i dderbyn £100 yw: Gower Bird Hospital, Swansea 

 

Categori ôl-16: Disco 4 Good- Jake Gates, Bishopston Comprehensive, Abertawe

Eisoes yn DJ sefydledig yn y gymuned hoffai Jake ddechrau menter Disco4Good lle bydd yn parhau i fod yn DJ ar gyfer disgos lleol yn ei ardal ond yn cyfrannu rhywfaint o'i elw i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer gwahanol elusennau. Byddai hefyd yn edrych i mewn i DJio am ddim mewn digwyddiadau elusennol i helpu i godi arian at wahanol achosion.

Yr elusen mae Jake wedi’i ddewis i dderbyn £100 yw: Bishopston Skatepark Project

De Ddwyrain                                                                                      

Neb yn ymgeisio 

 

1 syniad buddugol (yng nghategori 16-18 mlwydd oed) - Full of Character - Maddison Spencer

 

Llongyfarchiadau hefyd i'r canlynol sydd wedi derbyn canmoliaeth arbennig am eu syniadau busnes cymdeithasol gan ein beirniaid:

Eco Logs- Dosbarth yr Wyddfa, Ysgol Hafod Lon
I gasglu papur gwastraff o amgylch yr ysgol a'i rwygo ag ynai i ddefnyddio'r papur wedi'i rwygo i wneud frics glo fel tanwydd. Mi fyddan yn defnyddio unrhyw bapur o becynnu ym mhost yr ysgol i lapio’r boncyffion i’w paratoi ar gyfer eu gwerthu.

Affordable Prosthetic Device- Macie Leigh, Flint High

Y syniad yw dylunio dyfeisiau (breichiau) prosthetig o ansawdd uchel am bris fforddiadwy i ganiatáu i bobl gael dyfeisiau a fydd nid yn unig yn gwella ansawdd bywyd ond hefyd yn sicrhau y gallant gadw sefydlogrwydd ariannol.

 

Da iawn i’r syniadau busnes canlynol hefyd:  Beics, Button Up, Celebrate for Surveillance, Diodydd Ela ac Emily, Ffasiwn Ail Law, Impianti, Meddyg y Mór, Melysion Mared, Plas 3, Teen Tutors & The Angel Inn.

 

Ein Beirniaid:

Diolch i’n beirniaid: Nicola Hemsley-Cole, (Organised Kaos), Menna Jones, (Antur Waunfawr) a Sion Emlyn Davies (Dillad Arfordir).

Roedd y tri wrth eu bodd yn beirniadu’r Her ac yn gweld ysbryd entrepreneuraidd a safon gwaith y cystadleuwyr. Rhoddir eu hadborth cyffredinol isod:

‘’Roedd brwdfrydedd ac egni nifer o’r unigolion a’r grwpiau yn heintus ac yn gyffrous iawn. Mae rhywun yn dychmygu dod ar draws yr uniglion yma mewn byd busnes o fewn y 5-10 mlynedd nesaf.’ (Menna Jones)

‘Roedd yn bleser cael fy ngwahodd i asesu syniadau mawr y bobl ifanc ar gyfer Her Dechrau Rhywbeth Da, ar ran Syniadau Mawr Cymru. Rwy’n hollol ddarostyngedig o weld angerdd y bobl ifanc dros eu cymunedau a sut maen nhw’n meddwl am ddatrys yr heriau parhaus sy’n ein hwynebu bob dydd yn ein cymunedau. Mae’r syniadau busnes yn wych ac mae’r her wedi dangos bod pobl ifanc Cymru yn naturiol entrepreneuraidd gyda syniadau cryf a chreadigol’ (Nicola Hemsley-Cole)

 

Roedd yn anrhydedd medru asesu a rhoi fy marn ar syniadau busnes y pobl ifanc ar gyfer Dechrau Rhywbeth Da, ar ran Syniadau Mawr Cymru. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n fawr gyda’r holl Syniadau anhygoel y mae nhw wedi eu cynnig a sut maen nhw’n meddwl am ddatrys yr heriau sy’n ein hwynebu bob dydd yn ein cymunedau. Mae’r syniadau busnes yn ffantastig ac mae’r her wedi dangos bod pobl ifanc Cymru yn arloesol gyda syniadau cryf a chreadigol. Mae dyfodol entrepreneuraidd Cymru yn un disglair iawn. (Sion Emlyn Davies)