Newyddion Diweddaraf y Gyfnewidfa Entrepreneuriaeth

Y Gyfnewidfa Entrepreneuriaeth: Creu ecosystem entrepreneuriaeth syml, gweladwy a chysylltiedig i ieuenctid Cymru

Hydref 2022 - Rhagfyr 2022

Ddechrau mis Hydref, lansiwyd Adroddiadau’r Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang Cymru 2021 sy’n cyflwyno crynodeb o’r prif ganlyniadau a themâu allweddol sy’n deillio o’r arolwg GEM yn 2021, yn ogystal â dadansoddiad o ddata GEM (2002-21) o’r 19 mlynedd. Mae cyfoeth o ystadegau diddorol wedi’u cyflwyno drwy’r adroddiad ar gyfer y rheini sydd am gael tystiolaeth i gefnogi eu harferion.

Prif uchafbwyntiau’r adroddiad: 

  • Roedd cyfradd cyfanswm gweithgarwch entrepreneuriaeth cam cynnar (TEA) yng Nghymru yn 10.3%: sy’n sylweddol uwch na chyfradd 2020 o 6.5% 
  • Mae 70% o entrepreneuriaid cam cynnar yng Nghymru wedi’u cymell yn gryf gan entrepreneuriaeth i ennill bywoliaeth gan fod swyddi’n brin  
  • Ar draws grwpiau oedran yng Nghymru, roedd cyfradd TEA y rheini rhwng 55 a 64 oed yn is o lawer na’r rheini yn y grŵp 35-44 oed. 
  • Mae 43.0% o bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yn datgan bod ganddynt y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i ddechrau busnes 
  • Mae 45.2% yn adnabod entrepreneur sydd wedi dechrau busnes yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. 
  • Mae’ cyfraddau rheini sydd ofn methu yn debyg yn 2021 ac yn 2020 – dywedodd 55.5% o’r rheini a oedd wedi adnabod cyfleoedd i ddechrau busnes yng Nghymru y byddai ofn methu yn eu hatal rhag dechrau busnes 
  • Er gwaethaf y cynnydd yng nghyfran y rhai nad ydynt yn entrepreneuriaid yn gweld cyfleoedd da i ddechrau busnes o’i gymharu â 2020, y prif wahaniaeth rhwng Cymru a’r DU yn 2021 yw bod yna gyfran is o lawer yng Nghymru yn credu bod cyfleoedd da i ddechrau busnes yn eu hardal yn ystod y chwe mis nesaf, 40.8% yng Nghymru o’i gymharu â 47.7% yn y DU. 
  • Nid yw cyfraddau TEA dynion a menywod yn wahanol iawn yng Nghymru, sy’n cadw at batrwm y blynyddoedd diwethaf, ond mae angen i ni weld mwy o ddata cyn i ni allu ddathlu’r  ffaith bod y bwlch rhwng y ddau yn cau. 
  • Y gyfradd TEA ar gyfer menywod yng Nghymru yn 2021 oedd 9.8%, a oedd dim llawer is na’r gyfradd ar gyfer y dynion, sef 10.7%. Dyma’r cyfraddau uchaf a gofnodwyd yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion 
  • Mae’r gyfradd TEA ar gyfer menywod yng Nghymru wedi amrywio dros amser, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed o 7.0% yn 2019 a oedd yn uwch o lawer na’r cyfartaledd hirdymor o dua 4.0% rhwng 2002 a 2010. Yn 2021, cyrhaeddodd y gyfradd uchafbwynt newydd o 9.8% 

Yn gyffredinol, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuriaeth ledled Cymru, ac er bod cyfraddau is efallai o’r rhai sy’n credu bod cyfleoedd da i ddechrau busnes o’i gymharu â gweddill y DU, dywedir o hyd mai Cymru yw’r fframwaith delfrydol ar gyfer Cymorth Entrepreneuriaeth yn ôl y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Entrepreneuriaeth Ymchwil —  Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Entrepreneuriaeth  

 

Ym mis Mai 2022, bu NatWest yn cydweithio â’r Ganolfan Ymchwil mewn Entrepreneuriaeth Lleiafrifoedd Ethnig (CREME) ym Mhrifysgol Aston er mwyn cyflawni’r adroddiad Amser i Newid. Mae’r adroddiad yn nodi deg argymhelliad, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i hyrwyddo mwy o lwyddiant a chynhwysiant i fusnesau Lleiafrifoedd Ethnig (EMBS) wrth geisio cael gafael ar gyllid a chymorth busnes yn y DU. Mae’r adroddiad yn nodi glasbrint ar gyfer datblygu potensial twf busnesau Lleiafrifoedd Ethnig yn y DU.

Uchafbwyntiau’r adroddiad

  • Gallai cyfraniad EMBs i economi’r DU fod hyd at bedair gwaith yn fwy - o £25bn i £100bn - os darperir y cymorth i sefydlu ac ehangu busnesau lleiafrifoedd ethnig.
  • Mae lleiafrifoedd ethnig yn y DU yn fwy entrepreneuraidd na’r boblogaeth Wyn yn gyson, ond yn llai tebygol o fod yn gysylltiedig â rhedeg cwmnïau hŷn sefydledig sy’n creu incwm sefydlog dros amser. 
  • Nid yw gweithgarwch entrepreneuraidd gan grwpiau heb fod yn wyn,o reidrwydd yn arwain at gynhyrchu incwm i berchnogion.
  • Mae dros ddwy ran o dair (67%) o berchnogion busnesau Gwyn yn rhedeg cwmnïau sefydledig sydd dros 42 mis oed. Ond yn y gymuned Du mae’r ffigwr yn gostwng i 43%.
  • Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnesau sy’n Ddu yn rhedeg busnesau newydd neu gwmnïau ifanc bregus sy’n dueddol o fethu oherwydd yr amrywiol rwystrau a wynebir
  • Mae’r raddfa TEA yn ôl rhanbarthau’r DU a’r grŵp ethnig yn dangos mai’r De Ddwyrain, y Dwyrain a Llundain sydd â’r gyfradd uchaf yn y DU a rhai o’r canlyniadau cryfaf ar gyfer pob un o’r prif is-grwpiau ethnig.  
  • Rhwystrau i Fusnesau Lleiafrifoedd Ethnig: diffyg cefnogaeth, hiliaeth, diffyg sgiliau, rhwystrau iaith, jargon busnes, incwm is i ddechrau, rhwystrau hiliol cymunedol ar y cyd, diffyg cymorth ariannol, anhawster wrth lywio/cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau gweinyddol

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yma:

Sut mae’n effeithio arnoch chi?

  • Gall bod yn ymwybodol o rai o’r heriau y gall myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig eu hwynebu eich helpu i gael sgwrs am eu huchelgais o ran entrepreneuriaeth. 
  • Mae’n bosibl y bydd llawer o EMBs yn wynebu diffyg cefnogaeth gan eu teuluoedd a’u ffrindiau, yn ogystal â’r rhwydwaith ehangach, ac efallai y bydd angen i chi fod yn hyrwyddwr iddynt. 
  • Efallai nad ydyn nhw chwaith wedi gallu llenwi ceisiadau a ffurflenni mor hyderus â rhai o’u cymheiriaid gwyn, ac efallai y bydd angen help arnyn nhw gyda cheisiadau am grantiau, ceisiadau am gyllid cychwynnol a chymorth llywio. 
  • Yn bwysicach na hynny, canfyddiadau’r adroddiad CREME yw’r cysylltiad â Pholisi Gwrth-hiliaeth Cymru, a Chymru yw’r unig genedl yn y DU i gael polisi a chynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r mater hwn.  O safbwynt Addysg Uwch ac Addysg Bellach, mae’r cynllun gweithredu’n amlinellu camau gweithredu penodol ar dudalen 45 sy’n nodi “Byddwn hefyd yn disgwyl i bob sefydliad Addysg Uwch gyflawni nod siarter cydraddoldeb hiliol o fewn tair blynedd, a bydd hynny’n amod ar gyfer cael cyllid. Bydd hyn yn helpu i wreiddio polisïau gwrth-hiliaeth ar bob lefel yn y sector.”

Ddydd Mawrth 4 Hydref, cynhaliodd y Prince’s Trust drafodaethau ar sut i gefnogi menywod ifanc ym meysydd cyflogaeth, menter ac addysg. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan y Prince’s Trust yn eu hadroddiad Dosbarth Covid wedi dangos bod bron i hanner y bobl ifanc yn y DU (49%) yn teimlo’n bryderus am eu dyfodol bob dydd, gyda 59% yn cytuno ei fod yn gyfnod brawychus i’w cenhedlaeth, a 45% yn cytuno bod pryder ynghylch digwyddiadau gwleidyddol ac economaidd diweddar yn effeithio arnyn nhw bob dydd. Daw’r adroddiad wrth i’r elusen lansio ymgyrch Dosbarth Covid’. Mae’r fideo sy’n cefnogi’r ymgyrch yn effeithiol iawn ac yn werth ei rannu.

Uchafbwyntiau’r adroddiad

  • Mae dros hanner y menywod ifanc (55%) yn teimlo’n bryderus am eu dyfodol bob dydd o’i gymharu â 43% o ddynion ifanc
  • Roedd 56% o fenywod ifanc yn cytuno bod y dirwasgiad disgwyliedig yn y DU yn eu gwneud yn fwy pryderus nag erioed am ddiogelwch eu swyddi o’i gymharu â 47% o ddynion
  • Mae 48% o fenywod ifanc yn cytuno bod ansicrwydd ynghylch eu gyrfa yn y dyfodol yn bryder dyddiol o’i gymharu â 41% o ddynion
  • Mae menywod yn wynebu lefelau uwch o hyder a hunan-barch isel, ac yn wynebu rhwystrau cudd a drafodwyd yn y cyfarfod briffio dros frecwast. 

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yma:

Mae ymchwil newydd gan y Prince’s Trust yn datgelu bod bron i hanner y bobl ifanc yn y DU yn teimlo’n bryderus am eu dyfodol bob dydd | Newyddion a barn | Gwybodaeth am y Prince’s Trust | Y Prince's Trust (princes-trust.org.uk)

Sut mae’n effeithio arnoch chi?

  • Mae menywod yn fwy tebygol o ddioddef problemau hunan-barch, ond mae data gan y Prince’s Trust yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi bod yn yr ymgysylltu â rhaglenni menter ers Covid. Efallai fod hyn oherwydd bod menywod yn gweld entrepreneuriaeth fel opsiwn gyrfa mwy hyfyw nag yr oeddent cyn y pandemig. 
  • Dylid darparu cymorth drwy ddatblygu sgiliau meddal, meithrin hyder, darparu modelau rôl a mentora (a nodir hefyd yn Adroddaid Alison Rose 2019, 2022)

Araith Diwrnod Graddio Dosbarth Covid

Mae byw drwy bandemig wedi bod yn ddinistriol i bobl ifanc – gan amharu ar eu hunanhyder a’u hamddifadu o’u dyfodol. Mae wedi effeithio ar eu haddysg, eu bywydau cymdeithasol a’u dewisiadau gwaith, gyda’r rheini sydd eisoes yn wynebu anfantais yn cael eu gadael ymhellach fyth ar ôl. Maen nhw wedi aberthu cymaint, a dyma ein tro ni i’w helpu nhw i ailafael yn eu bywydau.

 

Yn Hydref 2022 cynhaliwyd Gwobrau Ieuenctid a Chymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru yn y Senedd mewn partneriaeth â Race Council Cymru (RCC) | Hyrwyddo Cydlyniant Cymunedol ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ddileu gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd. Roedd yn noson ysbrydoledig iawn a oedd yn cydnabod yr heriau y mae pobl ifanc Du yn eu hwynebu. Roedd y noson yn cydnabod ac yn tynnu sylw at y doniau anhygoel sydd ymysg pobl dduon ledled Cymru.

Ym mis Hydref hefyd, lansiwyd y swyddfeydd Tramshed Tech  newydd yng Nghasnewydd. Roedd y noson yn dathlu cyn-fyfyrwyr yr Academi Dechrau Arni ac yn trafod eu profiadau’n codi eu cylch ariannu cyntaf.  Os oes gan unrhyw un diddordeb mewn ymuno â’r rhaglen feithrin, gellir cofrestru’n uniongyrchol o’r wefan

Academi Dechrau Arni - Tramshed Tech

Academi Dechrau Arni. Mae’r Academi Dechrau Arni yn rhaglen feithrin 12 wythnos ar gyfer busnesau yn y diwydiannau technoleg, digidol a chreadigol, a hynny cyn iddynt ddechrau ac yn ystod cyfnod cynnar eu sefydlu.

www.tramshedtech.co.uk

 

GEM 2021/22 Adroddiad ar Entrepreneuriaeth Menywod

‘From Crisis to Opportunity’

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o ganfyddiadau arwyddocaol o ddata GEM 2021/22, yn amrywio o rywedd pobl â llawer o botensial sy’n cychwyn busnes, i effeithiau’r pandemig, a barn arbenigwyr cenedlaethol am yr amgylchedd sy’n galluogi entrepreneuriaid benywaidd. Canfu’r adroddiad fod menywod yn tueddu i fod yn llai amlwg na dynion yn fyd-eang o safbwynt gweithgaredd cychwyn busnes (ar gyfartaledd, 10.4% o’r menywod a gymerodd ran yn yr arolwg, o’i gymharu ag 13.6% o’r dynion). Mewn geiriau eraill, menywod yw dau o bob pum entrepreneur cyfnod cynnar sy’n weithredol yn fyd-eang. Er hyn, mae tua un o bob tri entrepreneur twf uchel ac un o bob tri entrepreneur arloesi sy’n canolbwyntio ar farchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol yn fenywod.

Pwyntiau allweddol eraill

  • Mae entrepreneuriaid benywaidd mewn gwledydd incwm-canolig-uwch yn cynrychioli rhai o’r entrepreneuriaid twf uchel mwyaf arloesol yn fyd-eang, ac maent ar yr un lefel â dynion o ran canolbwyntio ar farchnadoedd rhyngwladol.
  • O ganlyniad i bandemig COVID-19, profodd menywod ddirywiad tebyg i ddynion mewn bwriadau entrepreneuraidd (i gychwyn busnes) ond dirywiad llymach mewn cyfraddau cychwyn yn 2020. Fodd bynnag, nid oedd hyn i’w weld mewn gwledydd incwm-canolig-uwch, lle gwelwyd cynnydd mewn gwirionedd, o 4% ac 11% yn y drefn honno, mewn bwriadau a chyfraddau cychwyn busnes ar gyfer menywod rhwng 2019 a 2021.
  • Yn gyffredinol, cododd cyfraddau gadael busnes ar gyfer menywod o 2.9% i 3.6% yn ystod cyfnod dwy flynedd y pandemig, o’i gymharu â’r cyfraddau uwch ar gyfer dynion (3.5% i 4.4%). Dangosodd menywod mewn gwledydd incwm-canolig-uwch yr effaith pandemig fwyaf ar adael busnes, â chynnydd o 74% rhwng 2019 a 2021, o’i gymharu â dim ond 34% ar gyfer dynion.

Argymhellion ac Awgrymiadau Ymarferol

  • Ystyried sut i gefnogi entrepreneuriaid benywaidd â llawer o botensial ym mhob sector ac ar bob lefel incwm. Mae menywod yn cychwyn busnesau twf uchel ym mhob sector ac ym mhob economi ledled y byd. Er hyn, mae eu hymdrechion yn cael eu rhwystro gan stereoteipiau negyddol sy’n cael eu cadarnhau gan y naratif fod entrepreneuriaid benywaidd yn llai abl a than fwy o anfantais oherwydd tlodi, lefel addysg isel ac oedran iau.
  • Dod o hyd i sefydliadau partner, sydd â rhaglenni sy’n cefnogi entrepreneuriaeth menywod, i weithio gyda nhw
  • Mynd i’r afael â rhwystrau strwythurol drwy ddefnyddio modelau rôl benywaidd cadarnhaol i chwalu normau rhywedd mewn entrepreneuriaeth
  • Dathlu sylfaenwyr benywaidd llwyddiannus fel modelau rôl pwysig sy’n dangos i fenywod iau beth sy’n bosibl drwy rannu storïau yn y cyfryngau cymdeithasol a thrwy gyfryngau marchnata eraill.
  • Cyfeirio at y fframwaith a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru Cefnogi menywod entrepreneuraidd yng Nghymru: ffordd ymlaen i Gymru | LLYW.CYMRU

Oeddech chi’n gwybod bod gan Enterprise Educators UK dudalen arbennig ar gyfer polisi sy’n rhestru deunydd darllen, cyhoeddiadau ac erthyglau sy’n cael eu hargymell, yn ogystal â diweddariadau ymgynghori? Os ydych yn newydd i Addysg Entrepreneuriaeth, os ydych yn awyddus i ddiweddaru eich gwybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymgynghori ynglŷn â datblygiadau diweddaraf EE, ewch i dudalen bolisi EEUK i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Ym mis Hydref, rhyddhaodd Youth Business International adroddiad yn dwyn y teitl Tomorrow’s Entrepreneurs sy’n amlygu’r gwahaniaeth rhwng entrepreneuriaid ifanc a rhai dros 35 oed. Mae’r adroddiad yn dangos sut y mae agweddau tuag at entrepreneuriaeth wedi newid dros y blynyddoedd. Fwy a mwy y dyddiau hyn, mae pobl ifanc yn gweld entrepreneuriaeth fel ffordd o newid y byd yn hytrach na dim ond ffordd o wneud arian.

Mae entrepreneuriaid ifanc, o’u cymharu â’r rhai dros 35 oed:

  • Ddwywaith mor debygol o ddweud mai prif nod eu busnes yw datrys problem gymdeithasol neu amgylcheddol (39% o’i gymharu â 18%)
  • Yn fwy tebygol o ddewis cyflenwyr sy’n cynnig budd i’r gymdeithas, hyd yn oed os ydynt yn costio mwy neu os oes rhaid iddynt gyfaddawdu mewn rhyw ffordd arall (51% o’i gymharu â 36%)
  • Yn fwy tebygol o ddweud bod eu busnes yn canolbwyntio ar hybu amrywiaeth a budd cymdeithasol, hyd yn oed os yw hynny’n dod ar draul elw (41% o’i gymharu â 25%)
  • Ddwywaith mor debygol o ddweud “Mae gen i rôl bwysig i’w chwarae drwy helpu gweithwyr i fyw bywydau bodlon y tu allan i’w gwaith, hyd yn oed os yw hynny’n dod ar draul eu bywyd gwaith” (37% o’i gymharu ag 20%).

Dangosodd yr arolwg hefyd fod entrepreneuriaid iau yn rhedeg eu busnesau yn wahanol i entrepreneuriaid hŷn. Mae entrepreneuriaid iau (18-35 oed):

  • yn fwy tebygol o wneud busnes ar-lein (yn gyfan gwbl: 31% o’i gymharu â 27%, a gan mwyaf: 35% o’i gymharu â 27%),
  • yn fwy tebygol o chwilio am ffynonellau gwybodaeth allanol am redeg busnes, er enghraifft podlediadau (35% o’i gymharu ag 19%), y cyfryngau cymdeithasol (68% o’i gymharu â 34%), ac unedau sbarduno/hybu (12% o’i gymharu â 7%),
  • yn fwy tebygol o fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio busnes (71% o’i gymharu â 46%) ac yn fwy tebygol o gael mentoriaid, er bod cyfraddau’r entrepreneuriaid 36-45 oed sydd â mentoriaid yn debyg.

Yn anffodus, mae’r adroddiad yn dangos nad yw mynediad at entrepreneuriaeth ar gael i bawb.

  • Mae entrepreneuriaid ifanc yn fwy tebygol o ddod o gefndiroedd difreintiedig, o’u cymharu ag entrepreneuriaid hŷn.
  • Mae entrepreneuriaid iau (18–35 oed) dros dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi bod mewn ysgol breifat, o’u cymharu â’r cyhoedd yn gyffredinol (20% o’i gymharu â 6.5%)
  • Mae entrepreneuriaid ifanc yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael help drwy gysylltiadau personol i gychwyn eu busnes, o’i gymharu ag entrepreneuriaid hŷn (45% o’i gymharu â 38%)
  • Mae entrepreneuriaid ifanc yn fwy tebygol o gael arian gan deulu a ffrindiau, o’i gymharu ag entrepreneuriaid hŷn
  • Mae entrepreneuriaid ifanc yn llai tebygol o fod wedi bod mewn ysgol gyfun, o’i gymharu ag entrepreneuriaid hŷn (49% o’i gymharu â 63%)
  • Fel grŵp, roedd entrepreneuriaid o gefndiroedd du, Asiaidd, neu leiafrif ethnig arall, yn fwy tebygol o ddweud mai prif nod eu busnes oedd mynd i’r afael â phroblem gymdeithasol neu amgylcheddol, canolbwyntio ar amrywiaeth hyd yn oed ar draul elw, a dewis cyflenwyr ar sail budd cymdeithasol yn hytrach na gwerth am arian.

Argymhellion o’r adroddiad:

  • Defnydd ehangach o Wobrau Her ac Ymrwymiadau Marchnad Uwch ar gyfer pobl ifanc sy’n ceisio arloesi ag atebion i broblemau mawr,
  • Mwy o sicrwydd y bydd eu gwaith yn dod i wneud elw a denu mwy o fuddsoddwyr i gwmnïau sy’n hybu budd cymdeithasol,
  • Ailgyflwyno’r Cynllun Lwfans Menter, a sicrhau bod y swm yn fwy na budd-dal diweithdra er mwyn helpu entrepreneuriaid ifanc i sefydlu eu busnesau eu hunain
  • Dylai systemau sy’n cefnogi entrepreneuriaid ifanc weithio drwy agor drysau iddynt; rhoi gwybodaeth iddynt ynglŷn â sut i sefydlu a rhedeg busnes, eu cysylltu â mentoriaid, a sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i rwydweithio â phobl a allai gefnogi eu busnes, yn enwedig darpar fuddsoddwyr.

I ddarllen yr adroddiad llawn neu gael mwy o wybodaeth am waith Youth Business International, edrychwch ar wefan Youth Business International - Youth Business International

Adroddiad ar Entrepreneuriaid Graddedig y DU gan: Jorge Velez Ospina a Marcos Rodriguez 6 Hydref 2022

  • Yn ôl ein hamcangyfrifon econometrig, ar ôl ystyried gwahaniaethau rhanbarthol, mae’r tebygolrwydd y bydd graddedigion yn datblygu yn entrepreneuriaid fel a ganlyn: 10% yn Ne-orllewin Lloegr, 9% yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, 8% yn Llundain, Cymru, a Swydd Efrog a Humber. Mae’r tebygolrwydd lleiaf o entrepreneuriaeth ymhlith graddedigion ymchwil a datblygu i’w weld yng Ngogledd Iwerddon (5%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (6%)
  • Mae De-orllewin Lloegr, Dwyrain Lloegr, De-ddwyrain Lloegr a Chymru yn gweld cyfraddau entrepreneuraidd uwch na 7.5%, sy’n uwch na’r cyfartaledd rhanbarthol o 7%. Mae cyfraddau entrepreneuraidd is na’r cyfartaledd i’w gweld yng Ngogledd Iwerddon (5.2%), Gogledd-ddwyrain Lloegr (6.1%), Swydd Efrog a Humber (6.4%) a’r Alban (6.5%)
  • Mae 70% o’r entrepreneuriaid sy’n raddedigion yn gweithredu mewn gwasanaethau busnes sy’n seiliedig ar wybodaeth (KIBS), gan gynnwys technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a gweithgareddau proffesiynol a gwyddonol (30%), a gwasanaethau eraill sy’n seiliedig ar wybodaeth (40%).
  • O’r holl entrepreneuriaid sy’n raddedigion, roedd 58% wedi astudio pynciau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau, 21% wedi astudio pynciau STEM, a 15% wedi astudio pynciau Busnes a Rheoli. Mae’r canlyniadau hyn yn unol ag astudiaethau eraill, sy’n gweld perthynas gref rhwng cefndir mewn disgyblaeth yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau a bod yn entrepreneur yn y DU (Jones, et al., 2011), ac mewn gwledydd eraill, gan gynnwys yr Unol Daleithiau (Paulsen, et al., 2021).
  • Mae’r gynrychiolaeth gymharol isel o entrepreneuriaid graddedig â chefndir Busnes a Rheoli yn gyson â thystiolaeth ehangach, sy’n awgrymu nad yw’r rhai sy’n dilyn cwrs Busnes a Rheoli “yn tueddu i ystyried hunan-gyflogaeth raddedig” yn y DU (Jones, et al., 2011).

171,000 o aelodau o Genhedlaeth Z eisoes yn rhedeg busnesau yn y DU - HR News

Mae dadansoddiad Hazlewoods o 5.9 miliwn o gyfarwyddwyr cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ar hyn o bryd yn dangos bod 171,000 o aelodau o Genhedlaeth Z – y rhai sydd rhwng 18 a 25 oed ar hyn o bryd – eisoes yn gyfarwyddwyr busnesau yn y DU

Mae cyfarwyddwyr Cenhedlaeth Z yn y DU yn cynnwys:

  • 14,800 o fanwerthwyr ar-lein
  • 12,400 o siopau brics-a-morter
  • 4,100 o fusnesau buddsoddi mewn eiddo
  • 3,400 o stondinau bwyd a gwerthwyr bwyd symudol
  • 1,300 o dai bwyta
  • 1,100 o asiantaethau recriwtio
  • 900 o werthwyr tai
  • 700 o dafarnau a bariau

Gan ei bod mor hawdd i bobl agor busnesau manwerthu drwy ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol y dyddiau hyn mae nifer o aelodau o Genhedlaeth Z wedi troi at waith rhan-amser yn gwerthu nwyddau ar-lein (side hustles).

Er bod nifer y cyfarwyddwyr o Genhedlaeth Z yn tyfu’n gyflym, dim ond 3% ydynt o’r holl gyfarwyddwyr cwmnïau. Mae hyn yn golygu bod y grŵp ieuengaf hwn bellter y tu ôl i’r arweinwyr, Cenhedlaeth X – sydd rhwng 42 a 57 oed ar hyn o bryd – sy’n gyfrifol am 41% o holl gyfarwyddwyr y DU.