Gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd

Mae ein gwasanaethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth, deall y sgiliau a'r agweddau sydd eu hangen i lwyddo a galluogi disgyblion i gael cipolwg ar yr hyn sydd ynghlwm wrth gychwyn busnes.

Mae'r gwasanaethau hyn yn ysbrydoli disgyblion i feddwl yn wahanol am eu dyfodol, yn datblygu eu creadigrwydd ac yn adlewyrchu ar eu huchelgais a’u dyheadau gyrfa eu hunain.

Ar gyfer Ysgolion Cynradd rydym yn awyddus i gydnabod y gwaith sydd eisoes ar y gweill i roi cyfle i ddisgyblion cyn ifanced â 5 oed i flasu byd busnes:

Cystadleuaeth Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Cynradd – Y Criw Mentrus – Mae’r gystadleuaeth hon yn arddangos cyflawniadau disgyblion mewn busnes. Mae'n datblygu sgiliau entrepreneuraidd plant mewn ffordd fywiog a llawn mwynhad wrth ddarparu adnoddau addysgu i helpu ar hyd y ffordd;  Ewch i wefan y gystadleuaeth i gofrestru, a chael adnoddau a newyddion am y gystadleuaeth.

Ar gyfer ysgolion uwchradd, mae gennym weithdai sy’n golygu bod disgyblion yn cyfarfod ag entrepreneuriaid o’r gymuned fusnes ac yn dod â'r byd gwaith i’r ystafell ddosbarth. Mae’r “Modelau Rôl” hyn wedi ymweld ag ysgolion ers blynyddoedd lawer ac yn ysbrydoli disgyblion i feddwl am eu syniadau eu hunain yn y dyfodol.

Gweithdai ysbrydoledig - Mae’r modelau rôl yn darparu’r sbardun cychwynnol o ddiddordeb ac yn cyflwyno eu stori yn yr ystafell ddosbarth am tua 1 awr; gan gymryd amser i ryngweithio gyda'r disgyblion drwy holi a gweithgareddau meddwl yn greadigol. Mae nhw’n archwilio’r manteision a’r anfanteision o redeg busnes, gan roi hyder i ddisgyblion gredu yn eu syniadau eu hunain a’r realaeth o wneud iddynt lwyddo.

I lawer o bobl ifanc, dyma’r tro cyntaf maen nhw wedi cyfarfod â rhywun sy'n rhedeg eu cwmni eu hunain a drwy'r cyflwyniad, maen nhw’n dod i werthfawrogi’r cyfleoedd sydd ar gael a’r penderfyniad i wneud iddo ddigwydd.

Archwilio Syniadau Mawr - Gweithdy rhyngweithiol a hwylusir gan Fodelau Rôl i gynnig cipolwg ehangach ar entrepreneuriaeth; archwilio syniadau busnes a’ch cyflwyno i’r cymorth sydd ar gael.

Cysylltwch â'r tîm - archebu gweithdy neu gymryd rhan 

Sut i archebu:

Mae tîm o staff ymroddedig yn darparu’r gwaith o gydlynu a pharatoi ar gyfer y gwasanaeth. Byddant yn:

  • Cysylltu â'r athro/athrawes neu'r tiwtor i gytuno ar ddyddiadau ac amseroedd; deall mwy am y gynulleidfa a'r digwyddiad
  • Cysylltu â'r rhwydwaith o fodelau rôl i gael y model rôl cywir ar gyfer y partner
  • Cwblhau'r archeb drwy gadarnhau’r trefniadau ac unrhyw ofynion gyda'r ddwy ochr
  • Mynychu’r digwyddiad neu roi ffurflenni adborth er mwyn sicrhau bod yr ymweliad yn un llwyddiannus!

Mae'r gwasanaethau ar gyfer ysgolion yn cael eu cyflwyno gan Cazbah Ltd ar ran Llywodraeth Cymru. Cyfarfod y Tîm:

Ymweliadau Modelau Rôl ag ysgolion cyn ac ar ôl 16 oed.

Cyn 16: ym mlwyddyn 9, 10 ac 11 cyn dewis eu hopsiynau pan fyddant yn y camau cynnar o ystyried eu gyrfa eu hunain. Gall yr ymweliadau fod yn ysgogydd da ar gyfer myfyrio ar agweddau at waith a bywyd; a helpu myfyrwyr i ddeall mwy am fenter cyn rhoi cynnig arni!

Ôl-16: yn y chweched dosbarth, gall modelau rôl atgyfnerthu gwerth entrepreneuriaeth. Erbyn y chweched dosbarth, mae myfyrwyr yn fwy aeddfed, yn gallu deall a beirniadu’r opsiwn o greu busnes ar gyfer eu hunain.

Mae modelau rôl yn cymryd rhan yn y ddau weithdy a gallant...

  • Gyflwyno gweithdy wedi’i strwythuro o fewn amser y cwricwlwm;
  • Cefnogi ethos yr ysgol o annog cyflogwyr i ymgysylltu a darparu fframwaith Gyrfaoedd a Byd Gwaith
  • Dod â phynciau academaidd yn fyw;
  • Trafod a beirniadu syniadau busnes a gweithredu fel beirniaid mewn digwyddiadau menter;
  • Rhoi ffocws i ysbrydoli myfyrwyr gydag elfen fenter Bagloriaeth Cymru, ar lefel sylfaen, canolradd neu uwch;
  • Cymryd ymagwedd sectoraidd at eu gweithdy – gan roi pwyslais ychwanegol ar feysydd galwedigaethol penodol o astudiaeth
  • Ysbrydoli myfyrwyr a phobl ifanc sydd o bosib ddim yn gwireddu eu potensial
  • Darparu cyswllt cadarnhaol gyda chyflogwyr lleol a chefnogi arolwg ysgol Estyn