Gweithdai

Ein modelau rôl sy’n cynnal ein gweithdai Ysbrydoli ac Archwilio Nid yw’n gwneud gwahaniaeth os ydych yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu grŵp cymunedol, edrychwch i weld pa un sydd orau i chi!

Mae ein modelau rôl yn cyflwyno gweithdai ac yn rhannu sut aethon nhw ati i ddechrau eu busnesau gyda phobl o bob oed ledled Cymru. Maen nhw’n ceisio eich herio i feddwl yn greadigol a’ch helpu i ystyried entrepreneuriaeth yn y dyfodol. Edrychwch ar beth sydd ar gael yma a chymryd y cam cyntaf tuag weithio i chi eich hun! Gallech hefyd edrych ar broffiliau ein modelau rôl a chwilio am berchnogion busnes yn eich ardal.

Yn syml, maen nhw am

  • ·         eich helpu i feddwl am eich dyheadau a’ch breuddwydion
  • ·         herio’r syniad o sut beth yw gweithio i chi eich hun mewn gwirionedd
  • ·         rhannu eich profiad eich hun a rhoi awgrymiadau ynghylch sut i ddechrau arni
  • ·         eich mentora chi, darpar entrepreneuriaid Cymru

Os yw hyn o ddiddordeb i chi a’ch ffrindiau, cysylltwch â ni!

 

Cewch wybod pwy yw eich Hyrwyddwr Menter yma. Mae gennym Hyrwyddwr Menter ym mhob coleg a phrifysgol ledled Cymru.

 

Bydd eich athro/athrawes, Hyrwyddwr Menter neu arweinydd ieuenctid gysylltu â ni hefyd os oes diddordeb gennych yn un o’n gweithdai

Os ydych yn yr ysgol, gall model rôl lleol ddod a chyflwyno ‘gweithdy ysbrydoledig’ i chi a’ch dosbarth. Yn y gweithdy, bydd y modelau rôl yn rhannu eu hanes gyda chi ac yn rhoi blas ar sut beth yw gweithio i chi eich hun. Efallai y daw i’r amlwg i chi fod gweithio i’ch hun yn wahanol i beth oeddech wedi’i ddisgwyl.

Rydym am eich annog i feddwl yn greadigol am eich dyfodol a beth allech ei wneud. Efallai bod swydd gennych eisoes mewn golwg, ond ydych chi wedi meddwl am wneud hynny fel eich busnes eich hun? Gallai gweithdy model rôl fod yr union beth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i feddwl am syniad busnes gwych a gweld eich bod ar y trywydd cywir i greu eich busnes eich hyn ryw ddiwrnod.

Os ydych yn y chweched dosbarth, coleg neu brifysgol, gall model rôl lleol ddod draw a chyflwyno gweithdy ‘Archwilio Syniadau Mawr’. I’r rhai ohonoch sydd am fireinio eich syniadau a chynyddu eich hyder, dyma’r gweithdy i chi! Bydd yn eich helpu i ddeall rhagor am beth sydd ei angen i weithio i chi eich hun mewn gwirionedd a bydd hefyd yn eich cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael. Byddwch yn gadael y gweithdy gyda chynllun gweithredu a gwell dealltwriaeth o beth allwch ei wneud.

 

Mae modd addasu’r gweithdai yma ar gyfer eich anghenion penodol - gallech fod eisiau gweithio ar eich sgiliau cyflwyno, sut i farchnata eich hun, awgrymiadau ynghylch y cyfryngau cymdeithasol - beth bynnag fo’ch sector neu faes, mae gennym fodelau rôl ar gael i’ch helpu i lwyddo!

 

Os oes gennych syniad yr hoffech ei ddatblygu neu os hoffech edrych ar faes busnes penodol, cysylltwch ar bob cyfrif!

Os ydych yn rhan o grŵp cymunedol neu ieuenctid ac yn 25 oed neu’n iau, gall model rôl ddod draw a chyflwyno gweithdy sy’n seiliedig ar anghenion eich grŵp. Efallai eich bod heb ystyried y posibilrwydd o weithio i chi eich hun ryw ddydd, neu gallech fod â syniad a allai weithio yn eich barn chi. Ble bynnag yr ydych ar eich taith, gall ein modelau rôl eich helpu! 

Os oes gennych syniad yr hoffech ei ddatblygu, cofrestrwch yma. Os hoffech i fodel rôl gyflwyno gweithdy ar eich cyfer, cysylltwch ar bob cyfrif!