Sefydlodd Rose Williams, myfyrwraig ail flwyddyn yng Ngholeg Gwent ei chwmni toeau, All You Need, yn gynharach eleni â chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru, ac ers hynny mae wedi bod yn darparu ar gyfer gofynion toeau cartrefi yng Nghaerffili a thu hwnt, gan gynnig gwasanaethau fel mân waith atgyweirio teils ynghyd ag ailosod toeau gwydr ffeibr, rwber neu lechi.
Roedd Rose wedi bod yn teimlo’n rhwystredig mewn rolau blaenorol, lle bu’n gweithio fel gweithiwr cefnogi, ac fel cynorthwyydd cwsmeriaid ym maes manwerthu. Ar ôl astudio adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, penderfynodd Rose ddefnyddio’r wybodaeth hon am y diwydiant i ddechrau ei busnes toeau ei hun, gan ymgymryd â rôl rheolwr prosiect.
Dechreuodd ei busnes â chymorth Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Busnes Cymru ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o’i hymrwymiad i’r Warant i Bobl Ifanc.
Roedd gan ei thad 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, ac mae Rose wedi ymuno â’r diwydiant a oedd yn ei hatgoffa o’i phlentyndod, a hithau’n arfer mynd i safleoedd adeiladu gyda’i thad i ennill arian poced pan oedd yn ei harddegau. Yn fwy diweddar, mae hyn wedi datblygu’n fusnes teuluol llewyrchus, gan fod Rose wedi cyflogi ei thad a’i brawd, sy’n drydanwr, i wneud y gwaith ymarferol, tra mae Rose yn rheoli’r busnes o ddydd i ddydd.
Dywedodd, “Does dim llawer o bobl yn disgwyl i fenyw 19 oed sy’n astudio therapi harddwch yn y coleg sefydlu ei chwmni toeau ei hun. Ond rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod yn fenyw ifanc mewn diwydiant sy’n cynnwys dynion yn bennaf, a mod i’n herio’r syniad ystrydebol mai rhywbeth i ddynion yn unig yw toi a chrefftau tebyg.
“Mae’n gwneud byd o wahaniaeth i’m cleientiaid hefyd, yn enwedig y rhai hynny sydd efallai’n teimlo’n anghyfforddus ynglŷn â chael criw o ddynion yn eu cartref. Mae’r adborth rydw i wedi’i gael fel chwa o awyr iach. Mae fy nghwsmeriaid yn hoffi gweld menyw yn dod i’w cartref i drafod eu gofynion a’u cynlluniau. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud fy musnes i yn wahanol i fusnesau eraill.”
Wrth chwilio am gyngor ynglŷn â sefydlu busnes, daeth Rose o hyd i Syniadau Mawr Cymru ar-lein a chysylltodd â’r gwasanaeth â chrynodeb o’i chynllun ar gyfer y busnes. Yn fuan wedyn, cafodd Rose alwad ffôn gan Syniadau Mawr Cymru a chafodd ei rhoi mewn cysylltiad â’i Chynghorydd Busnes ei hun, Natalie Duckett, sydd wedi darparu cymorth busnes un i un a’i thywys drwy bob cam o’r broses o greu busnes, o yswiriant a llif arian i ddatblygu tîm.
Wrth siarad am fanteision sefydlu busnes ar y cyd â Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Rose: “Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb Syniadau Mawr Cymru. Yn ogystal â rhoi popeth ro’n i ei angen i adeiladu busnes cadarn, ac ateb pob un o’m cwestiynau â gwybodaeth ac adnoddau, roedd Natalie mor gefnogol wrth fy annog i fel menyw i gamu i’r diwydiant. Mae Natalie, a Syniadau Mawr Cymru, yn arbennig o dda am ysbrydoli pobl ifanc – yn enwedig menywod – wrth iddynt adeiladu eu dyfodol o syniadau bach, beth bynnag yw eu diwydiant.”
Yn ystod y misoedd nesaf, mae Rose yn bwriadu cyflogi intern arall i’w helpu i ddatblygu ei busnes toeau, a chynnig ei gwasanaethau harddwch i gleientiaid yn rhan-amser.
Dywedodd Natalie Duckett, Cynghorydd Busnes yn Syniadau Mawr Cymru: “Mae mor braf a grymus gweld menywod fel Rose, sydd ddim ond yn 19 oed, yn cymryd busnes i’w dwylo eu hunain ac yn creu dyfodol iddynt eu hunain. Mae angen hyder i ymuno â diwydiant sy’n anghyfarwydd i chi, ond â chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru gwyddom y gall Rose, sydd mor benderfynol, ac All You Need Roofing, fod yn llwyddiannus iawn.”
Dywedodd Tim Monckton, Hyrwyddwr Menter yng Ngholeg Gwent: “Mae Rose yn enghraifft berffaith o berson ifanc sydd wedi rhoi ei dyfodol yn ei dwylo ei hun, gan gydbwyso gyrfa amser llawn â gwaith rhan-amser. Mae wedi parhau’n ymroddedig ac yn benderfynol o gwblhau ei hastudiaethau mewn therapi harddwch tra’n datblygu ei busnes toeau, ac edrychwn ymlaen i’w gwylio hi a’i mentrau busnes yn tyfu.”