Entrepreneuriaid ifanc yn dod â syniadau busnes Cymru ar gyfer y dyfodol yn fyw mewn bŵt-camp
Daeth dros 40 o entrepreneuriaid ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd i dreulio penwythnos (26-28 Tachwedd) mewn bŵt-camp preswyl dwys er mwyn datblygu’r arbenigedd entrepreneuraidd sydd ei angen i droi eu hegin syniadau busnes yn realiti ffyniannus.
Cynhaliwyd digwyddiad preswyl ‘Bŵt-camp i Fusnes’ Syniadau Mawr Cymru eleni, i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed, ym Maenordy Kilvrough yng Ngwŷr. Dyma’r bŵt-camp wyneb yn wyneb cyntaf ar ôl y pandemig, yn dilyn dwy flynedd o ddigwyddiadau rhithwir.
Wedi’i anelu at bobl â meddylfryd busnes rhwng 18 a 25 oed, nod ‘Bŵt-camp i Fusnes’ yw cryfhau’r system gymorth sydd ar gael i bobl ifanc sydd eisiau gweithio mewn capasiti hunangyflogedig trwy ddatblygu syniadau busnes eginol entrepreneuriaid ifanc trwy gyfres o weithdai yn ystod digwyddiad tri diwrnod.
Eleni, cafodd mynychwyr y cyfle i drochi ym myd busnes ac entrepreneuriaeth dros benwythnos, oedd yn cynnwys dosbarth meistr mewn hunan-hyrwyddo, gweithdy archwiliadol mewn cynaliadwyedd, sesiwn ar gyflwyno syniadau a mewnwelediadau allweddol i farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Wrth law i arwain gweithdai a barnu syniadau busnes y cyfranogwyr roedd modelau rôl Syniadau Mawr Cymru, perchnogion busnes ac entrepreneuriaid o bob rhan o Gymru.
Yn eu plith, roedd yr hyfforddwr llwyddiant a meddylfryd, Ryan Stephens, sydd hefyd yn fodel rôl Syniadau Mawr Cymru. Fel rhan o’i rôl fel model rôl, mae Ryan yn mynychu ystod o weithdai a digwyddiadau Syniadau Mawr Cymru i helpu entrepreneuriaid ifanc i gael gwell dealltwriaeth o hunangyflogaeth trwy ddarparu cyngor ac arweiniad personol yn seiliedig ar ei siwrne fusnes ei hun.
Cyflwynodd Ryan ddosbarthiadau meistr ar hunan-hyrwyddo a chyflwyno syniadau ar ôl llwyddo i lansio dwy fenter – sef y grŵp nofio gwyllt gwirfoddol, The Wet Bandits, a’r podlediad busnes a hunan-ddatblygu, Ideas and Beers, sy’n cynnwys sgyrsiau gydag entrepreneuriaid gwadd o feysydd amrywiol fel technoleg, ffitrwydd, iechyd a lles.
Daeth y digwyddiad i ben gyda seremoni wobrwyo. Jack Blundell, sefydlydd Routebuddies, ap diogelwch wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n gwahodd pobl o bob rhywedd ac oed i gydlynu eu teithiau adref gyda’i gilydd yn ddiogel, enillodd wobr y Cyflwyniad Gorau.
Ivan Watkins, sefydlydd Bardibums, y cwmni cynhyrchu nwyddau twtio cŵn, ecogyfeillgar, sydd wedi’u gwneud â llaw, enillodd y Wobr Werdd; tra enillodd Miriam Hughes, sefydlydd y busnes ffotograffiaeth arobryn, Enaid Llawn Antur, y Wobr Hyrwyddwr Cymunedol am ei hymdrechion o ran cefnogi llesiant meddwl ei chymuned trwy wahodd pobl i ymuno â hi i gofleidio natur trwy ffotograffiaeth.
Wrth drafod ei rôl yn nigwyddiad ‘Bŵt-camp i Fusnes’ Syniadau Mawr Cymru eleni, dywedodd Ryan Stephens: “Mae’r penwythnos cyfan yn gyfle anhygoel i entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru archwilio eu creadigrwydd ymhellach, rhoi sglein ar eu syniadau busnes ac ysbrydoli ei gilydd i barhau i yrru ymlaen oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod pa mor anodd y gall entrepreneuriaeth fod.
“Rydw i wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl ifanc ar bob cam o’u teithiau busnes a chynnig mewnwelediad a chyngor personol iddynt y byddwn i wedi hoffi ei dderbyn ar ddechrau fy ngyrfa. Mae brwdfrydedd y bobl ifanc wedi fy ysbrydoli ac rwy’n edrych ymlaen at wylio eu busnesau yn tyfu.”
Ychwanegodd Jack Blundell, sefydlydd Routebuddies ac enillydd gwobr y Cyflwyniad Gorau: “Am brofiad. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi gallu treulio penwythnos llawn yng nghwmni pobl fusnes o'r un meddylfryd a chael cyngor gan entrepreneuriaid sefydledig.
“Bydd y mewnwelediad a’r sgiliau yr wyf wedi’u dysgu o’r digwyddiad gwych hwn yn fy helpu drwy lawer o gerrig milltir busnes heriol a chyffrous, ac rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Syniadau Mawr Cymru.”
Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru i annog entrepreneuriaeth yng Nghymru. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i helpu pobl ifanc rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniadau busnes a thalent entrepreneuraidd.
I gael mwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael i entrepreneuriaid ifanc gan Syniadau Mawr Cymru, ewch i www.gov.wales/bigideas