Myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn bragu llwyddiant busnes ar ôl sicrhau cyllid a gofod swyddfa i roi cychwyn da i’w busnes te rhagorol.
Lansiodd Amy Aed, 22, EISA Tea co., busnes te premiwm gyda ffocws ar gyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol. Dechreuodd y busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, rhan o Busnes Cymru,sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy'n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion.
Gyda’r uchelgais o sicrhau bod EISA Tea co. yn cael ei werthu mewn caffis, delis a gwestai o fis Mehefin ymlaen, mae cynhyrchion cyntaf y busnes yn cynnwys dau de pur a dau de cymysg. Er bod y te gwyn a gwyrdd o ansawdd uchel yn mynd i apelio at yfwyr te traddodiadol, mae’n gobeithio denu cwsmeriaid newydd gyda’r te blas cacen gri cyntaf yn byd a the chai figanaidd gludiog cyntaf y DU.
Wrth siarad am sut y daeth EISA Tea yn wreiddiol, dywedodd Amy: "Pan darodd y pandemig, fe benderfynais wneud cwrs te ar-lein i ehangu gwybodaeth am y ddiwydiant. Ar ôl darganfod mwy fyth am yr holl broblemau moesegol sy'n gysylltiedig â ffermio te, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu mwynhau paned heb deimlo'n euog.
"Roeddwn yn cydnabod y gallai pobl eraill sy'n caru te wynebu yr un cyfyng-gyngor moesogol hefyd, a buan iawn y sylweddolais bod bwlch yn y farchnad ar gyfer te blasus, blasus gyda llai o faich amgylcheddol. Hon oedd y prif ysgogiad i sicrhau bod fy nghynnyrch yn cael eu ffermio'n gyfrifol a bod EISA Tea co. yn fusnes moesegol. "
Wrth siarad am safiad moesegol EISA Tea co.' dywedodd Amy: "Rydym yn fusnes sy'n eiddo i fenyw ac yn cael ei weithredu gan fenyw, ac rydw i eisiau defnyddio ein hadnoddau i rymuso menywod yn uniongyrchol ledled y byd. Mae'r rhan fwyaf o'r ffermwyr te rydw i’n bwriadu gweithio gyda nhw’n fenywod, ac mae gennym safonau uchel o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws ffermydd."
Mae te heb blastig, gyda deunydd pacio wedi’i wneud o bapur bioddiraddadwy, a rhodd o’i elw yn mynd tuag at achosion amgylcheddol yn rhai o’r addewidion cynaliadwy sy’n rhan o EISA Tea Co.
Gyda blog te sefydledig a thros 350 o wahanol de wedi eu samplo, cofrestrodd Amy EISA Tea co. ar gyfer cystadleuaeth InvEnterPrize flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a drefnwyd gan Wasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol gyda chefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru.
Er mwyn helpu’r myfyrwr i ddatblygu ei meddylfryd entrepreneuraidd, penodwyd ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru i Amy, sef Julie Morgan, a roddodd gyngor i’r myfyrwr ar ysgrifennu cynllun busnes, rhagolygon ariannol, marchnata a datblygu busnes.
Ochr yn ochr â’r cymorth un-i-un hwn gan Syniadau Mawr Cymru, sicrhaodd Amy le swyddfa am ddim am flwyddyn yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth er mwyn datblygu EISA Tea co. ymhellach, a hynny ar ôl iddyn nhw ddod yn ail yn y gystadleuaeth.
Wrth siarad am y gefnogaeth maen nhw wedi’i chael, dywedodd Amy: “Mae’r brifysgol a Syniadau Mawr Cymru wedi cynnig cefnogaeth anhygoel i mi ar ddechrau fy nhaith busnes. Mae cael cyfle i siarad ag entrepreneuriaid o’r un anian yn sesiynau Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru wedi golygu fy mod wedi cael cyngor am ddim gan bobl fusnes llwyddiannus sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â fi nawr. Mae gwybod bod Syniadau Mawr Cymru ar ben arall y ffôn yn gysur mawr wrth i mi ddatblygu fy musnes.”
Yn y tymor hir, mae’r fenyw busnes yn cael ei gweld fel arweinwyr y farchnad mewn te premiwm wedi’i dyfu’n gynaliadwy ac yn gobeithio ymweld â ffermydd te yn Asia i ddatblygu cysylltiadau mwy personol â ffermwyr.
Dywedodd Julie Morgan, ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n wych gweld sut mae Amy wedi llwyddo i droi ei hangerdd yn fusnes go iawn gydag agwedd foesegol. Mae ganddi frand cryf sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac sydd wedi ymrwymo iddo. Gan gyfuno hyn â’i chraffter busnes naturiol, mae gen i obeithion mawr amdani ac edrychaf ymlaen at weld EISA Tea co. yn tyfu i fod yn fusnes llwyddiannus.”
Dywedodd Tony Orme, Cynghorydd Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n wych gweld y myfyrwr hon yn troi rhywbeth mae hi wrth ei bodd yn ei wneud yn fenter, gan ddefnyddio’r sgiliau mae hi wedi’u dysgu gyda’r brifysgol ac yn ystod y gystadleuaeth InvEnterPrize i ddatblygu busnes cadarn. Mae Amy wedi gallu troi’r flwyddyn heriol hon i gynifer o fusnesau yn ddechrau newydd i’w busnes ei hun.”