Mae dyfodol ffotograffydd llawrydd ifanc dan y chwyddwydr ar ôl treulio tymor yn tynnu lluniau blwyddyn fwyaf llwyddiannus CPD Wrecsam o dan deyrnasiad y sêr o Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Mae'r ffotograffydd 23 oed, Cody Froggatt o Gei Connah, a raddiodd gydag MA mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Nottingham Trent ym mis Awst y llynedd, wedi treulio'r wyth mis diwethaf yn rhoi ar gof a chadw gerrig milltir mwyaf cofiadwy ei glwb lleol wrth iddynt gael eu dyrchafu'n ôl i'r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd.
O gamp Elliott Lee yn y 78fed munud a Paul Mullin yn codi'r tlws fel pencampwyr y Gynghrair Genedlaethol, i orymdaith fuddugol y clwb mewn bws agored, mae lluniau perffaith Cody - sydd hefyd yn cynnwys wynebau’r enwogion Will Ferrel a Paul Rudd ar y Cae Ras - wedi cael sylw fwy na 74 o weithiau mewn papurau newydd cenedlaethol fel The Times, Daily Mail a Daily Mirror.
Wrth i'r tymor pêl-droed ddechrau eto, mae Cody yn ôl ar ochr y cae i gofnodi dychweliad Wrecsam ar ôl ardystio'i fusnes ffotograffiaeth llawrydd, Cody Froggatt Photography, gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru.
Roedd Cody wedi bod yn siarad â nifer o glybiau nad oeddynt yn rhai cynghrair, pan ddaeth y cyfle i dynnu lluniau yn Wrexham AFC fel ffotograffydd llawrydd i Alamy, cwmni ffotograffiaeth stoc, yn 2022. Wrth gofio'r gêm a newidiodd y cyfan, dywedodd Cody: "Rwy'n ffanatig pêl-droed enfawr felly pan gaf unrhyw gyfle i dynnu lluniau mewn gemau pwysig, mae bob amser yn fraint ac yn gyfle aruthrol. Roedd gêm Wrecsam yn erbyn Notts County yn un enfawr i mi, dywedwyd mai’r gêm honno benderfynodd y teitl ar gyfer y gynghrair y tymor diwethaf; roeddwn i'n gyffrous iawn. Nes i ddim sylweddoli tan i mi gyrraedd adref a gweld bod Ryan Reynolds wedi rhannu fy lluniau gyda’i bron i 50 miliwn o ddilynwyr ar Instagram y gallai hyn newid fy ngyrfa.
"Y peth nesaf roeddwn i'n ei wybod, roedd fy nghyfrif yn chwythu i fyny ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol ac roeddwn i'n gwybod fy mod wedi cael hwb lwcus iawn i mewn i'r diwydiant. Bron dros nos, roeddwn i'n cael lluniau euraidd nad oedd llawer o ffotograffwyr eraill yn llwyddo i’w tynnu, ac yn fuan fe ddechreuon nhw ymddangos ar draws y cyfryngau wrth i lwyddiant Wrecsam fynd drwy’r to."
Ochr yn ochr â thynnu lluniau o Glwb Pêl-droed Wrecsam, mae Cody wedi teithio ledled Cymru a Lloegr gan dynnu lluniau mewn gemau pêl-droed a thwrnameintiau rygbi menywod. Mae Cody hefyd yn tynnu lluniau o ddigwyddiadau awyrennu, angerdd o’i blentyndod a'i arweiniodd i mewn i ffotograffiaeth yn ifanc. Mae bellach yn tynnu lluniau Wrecsam ar ran asiantaeth luniau News Images.
Ym mis Chwefror 2023, yn fuan ar ôl dechrau gwerthu ei ffotograffau a oedd wedi dal diddordeb y genedl, estynnodd Cody allan at Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd, fel rhan o Busnes Cymru, yn anelu at gefnogi unrhyw un rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o'i ymrwymiad i’r Warant i Bobl Ifanc.
Cafodd Cody ei baru gyda'r Cynghorydd Busnes, Martin Unwin, a'i cefnogodd i sicrhau bod ganddo'r holl ddogfennau angenrheidiol i weithredu fel busnes llawrydd ardystiedig a pharhau i weithio gyda Wrecsam ochr yn ochr â chlybiau mawr y Gynghrair Bêl-droed.
Meddai Cody: "Pan wnes i gysylltu gyda Syniadau Mawr Cymru, roedd fy mreuddwyd o weithredu fel ffotograffydd llawrydd llwyddiannus eisoes ar waith, ond roedd angen cymorth arnaf o hyd i sicrhau bod fy musnes yn cael ei ardystio. Mae Martin wedi fy helpu i sicrhau cofrestriad busnes cadarn cyn y tymor nesaf ac aeth gam ymhellach trwy fy helpu i sicrhau Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc, a helpodd fi i gael gafael ar offer lefel nesaf sy'n gwneud i'm delweddau sefyll allan o rai pawb arall. Mae cael y cyfoeth hwn o gefnogaeth wedi lleddfu fy meddwl o'r holl straen sy'n dod gyda rhedeg busnes. Rydw i’n lwcus iawn."
Dywedodd Martin Unwin, Cynghorydd Busnes gyda Syniadau Mawr Cymru: "Mae Syniadau Mawr Cymru yma i gefnogi entrepreneuriaid ar bob lefel o'u busnes, gan gynnwys y rhai sydd eisoes wedi cyflawni llwyddiant ond sydd angen sicrhau hirhoedledd eu busnes. Mae'n bwysig eu bod yn gofyn am gymorth pan fydd ei angen, hyd yn oed os yw eu busnes eisoes yn llwyddiant ysgubol, a dyna pam mae stori Cody mor bwysig. Mae'n esiampl wych i bobl fusnes sydd am sicrhau eu bod yn gweithredu mor llwyddiannus â phosibl."