Mae entrepreneur 24 oed ar y trywydd i lwyddo yn dilyn lansiad ei busnes powlenni bara wedi’i bobi unigryw.
Lansiodd Hannah Worth, a raddiodd mewn Busnes ym Mhrifysgol Abertawe, Bowla ym mis Ebrill 2023 gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, ar ôl sicrhau ei stondin beilot ei hun ym marchnad dan do Abertawe.
Dros yr wyth mis diwethaf, mae Hannah wedi bod yn bwydo pobl Abertawe gyda phowlenni bara wedi’i bobi wedi'u llenwi ag ystod o lenwadau maethlon, o gawl cig oen traddodiadol Cymreig i belenni cig sbeislyd fegan.
Ers agor ei leoliad cyntaf, mae'r busnes wedi cynnal digwyddiadau dros dro, wedi darparu ciniawau corfforaethol mawr, ac wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys tair gwobr gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Marchnad, corff cenedlaethol y DU ar gyfer masnachwyr marchnad a stryd, Gwobr Bwyd a Diod Ranbarthol De Cymru a Gwobr Bwyd a Diod Lleol Abertawe.
Wrth drafod yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Bowla, dywedodd Hannah: "Daeth fy nhad ar draws y syniad ar gyfer Bowla bron i ddau ddegawd yn ôl ar ôl iddo brynu peiriant gwneud bara o siop elusen. Wnaeth ei ymgais gyntaf i bobi bara ddim mynd yn rhy dda gyda’r dorth yn chwyddo drosodd fel madarchen ac yn debyg i het silc, gan sbarduno'r syniad am fara Bowla.
"Tyfais i fyny’n gwrando ar y stori ddoniol hon a phenderfynais fy mod i eisiau rhoi cynnig arni hefyd. Felly, astudiais radd meistr mewn busnes a lansio'r busnes ochr yn ochr ag ef. Ers hynny, rwyf wedi ei gwneud hi'n genhadaeth i wneud Bowla yn brif fwyd unigryw sydd ond ar gael yn Abertawe."
Wedi’i ysbrydoli, cynhyrchodd tad Hannah, Clayton, batent a nod masnach ar gyfer tri mowld Bowla alwminiwm o faint gwahanol. Ond penderfyniad Hannah oedd codi proffil Bowla drwy gynnal digwyddiadau blasu’r cynnyrch yn rhad ac am ddim , creu arolygon ar-lein, a chynhyrchu bwydlenni tymhorol gyda hynny’n gwthio’r busnes newydd i flaen y sîn fwyd yng Nghymru.
Ers ei lansio, mae Hannah wedi cael sylw yn Bakery Business a British Baker ac mae hefyd wedi cael ei henwebu am ddwy wobr Twf Busnes yng Nghymru – y wobr New on the Scene a gwobr Bwyd, Diod a Lletygarwch. Mae Bowla hefyd wedi gweld cynnydd o 30% mewn elw ers cofrestru ar apiau dosbarthu bwyd Deliveroo ac Uber Eats – i ddod â Bowla i gartrefi pobl.
Lansiodd Hannah Bowla gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio cefnogi unrhyw un rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o'i ymrwymiad i’r Warant i Bobl Ifanc.
Yn fuan ar ôl cysylltu â nhw, cafodd Hannah ei pharu gyda'r cynghorydd busnes Mikayla Bloomfield a'i helpodd nid yn unig i fireinio cynllun busnes Bowla ond a roddodd yr entrepreneur ifanc ymlaen ar gyfer Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc.
Yn dilyn cais llwyddiannus, defnyddiodd Hannah yr arian grant i fuddsoddi mewn iwnifform brand Bowla pwrpasol iddi hi ei hun a'r teulu a'r ffrindiau sydd i gyd yn gwirfoddoli ar y stondin, darllenydd cerdyn, taflenni, cardiau teyrngarwch cwsmeriaid, baneri, a chyflenwadau hanfodol eraill a oedd eu hangen i sefydlu safle masnachu cyntaf Bowla yn ffurfiol ym marchnad dan do Abertawe.
Wrth drafod y gefnogaeth a gafodd gan Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Hannah: "Pan benderfynais i lansio Bowla, roeddwn i'n lwcus iawn i gael gradd busnes y tu ôl i mi. Ond mae'n hollol wahanol pan fyddwch chi'n ei wneud go iawn. Roedd Mikayla yn system gefnogaeth enfawr. Ar ôl lansio ei busnes ei hun mewn marchnad yn y gorffennol, roedd hi'n gallu rhoi cyngor personol i mi."
Dywedodd yr ymgynghorydd busnes, Mikayla Bloomfield: "Roeddwn i'n hapus i gefnogi Hannah i gyflawni ei nodau, roedd ei gwybodaeth o'i gradd busnes yn ei gwneud hi'n hyddysg iawn mewn prosesau busnes. Fodd bynnag, rwy'n gwybod o fy mhrofiadau fy hun y gall rhedeg stondin mewn marchnad fod yn eithaf heriol, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw felly roeddwn yn falch o gynnig cyngor lle gallwn. Mae parodrwydd Hannah i lwyddo wedi gyrru Bowla ymlaen ac mae wedi sefydlu ei hun fel opsiwn amser cinio unigryw i bobl leol ac ymwelwyr i Abertawe fel ei gilydd."
Yn ystod y misoedd nesaf, mae Hannah yn gobeithio defnyddio gwasanaeth Syniadau Mawr Cymru ymhellach trwy gymryd rhan yn ei weithdai ar-lein ar farchnata a rheoli busnes i archwilio ffyrdd newydd o dyfu Bowla y tu allan i Abertawe a'i arddangos i gynulleidfa genedlaethol. Mae hi'n dyheu un diwrnod i integreiddio Bowla i'r farchnad fyd-eang, gan wneud y bowlenni bara a nwyddau Bowla unigryw ar gael i'w prynu ar-lein.
Mae Hannah yn gobeithio y bydd y sgiliau y bydd hi'n eu caffael o'r gweithdai yn ei helpu i barhau i atgyfnerthu strwythur y busnes ac adeiladu Bowla ymhellach fel brand sy'n ymfalchïo mewn gwreiddioldeb a chalon.
Ychwanegodd Angus Phillips, Swyddog Cymorth Menter ym Mhrifysgol Abertawe: "Roeddem yn ddigon ffodus i gefnogi taith Hannah i sefydlu busnes newydd wrth iddi astudio ar gyfer ei gradd Busnes ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl nifer o gyfarfodydd cymorth cyn dechrau, fe wnaethom ei chyflwyno i'n cystadleuaeth ariannu menter, The Big Pitch, lle dyfarnwyd chwe mis o fentoriaeth a chyllid grant iddi i helpu i ddatblygu a lansio ei busnes.
"Ers agor ei siop yn Abertawe, mae Hannah wedi ymuno â nifer o'n digwyddiadau ar y campws ac ar draws y rhanbarth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, yn ogystal â serennu yn ein cyfres fideo i fyfyrwyr newydd ar YouTube."