Sue Hall
Cadair View Lodge Ltd
Trosolwg:
Rheoli eiddo hunan arlwyo
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Wrecsam

Dechreuais fy musnes yn 2001 ar ôl gyrfa ym maes TG. Collodd fy ngŵr ei swydd a chyda'r arian diswyddo fe brynom gaban pren i’w rentu allan ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae hyn mor llwyddiannus fel ein bod bellach yn rheoli 14 o eiddo hunanarlwyo a busnes llewyrchus.
 
Mae wedi bod yn anodd oherwydd rhai hafau gwael, sy'n tueddu i droi ymwelwyr i ffwrdd, ac oherwydd y dirwasgiad sydd hefyd yn cyfyngu ar bŵer gwario pobl. 
 
Peidiwch â dilyn eich cynllun busnes i’r llythyren, a chwiliwch bob amser am farchnadoedd newydd.
Sue Hall - Cadair View Lodge Ltd
 
Rydym wedi ceisio llawer o bethau newydd dros y blynyddoedd, rhai ohonynt sydd wedi gweithio a rhai nad ydynt, ond rydym yn caru’r rhyddid o redeg ein busnes ein hunain.