Mae Nathan yn entrepreneur ifanc llwyddiannus sydd wedi cael ei gymeradwyo’n gyhoeddus gan y Prif Weinidog, ei gymeradwyo gan Richard Branson, ei benodi yn llysgennad ifanc y flwyddyn i Ymddiriedolaeth y Tywysog, bu’n esiampl entrepreneuraidd i Lywodraeth Cymru ac mae wedi cynrychioli Prydain fel cynadleddwr busnes.
Mentrwch a sicrhewch gyfleoedd i chi eich hun. Gweithiwch yn galed a byddwch yn hyderus. Credwch ynoch eich hun a gwneud iddo ddigwydd!
Nathan John - Rewise Learning Ltd
Bu iddo oresgyn y rhwystrau o fod yn dyslecsig, heb i hynny gael ei ganfod yn yr ysgol, a sefydlodd Nathan fusnes cerddoriaeth a digwyddiadau llwyddiannus, a bu’n DJ llwyddiannus yn 18 oed pan yn y brifysgol. Aeth Nathan yn ei flaen i drefnu dros 1000 o ddigwyddiadau ac i fod yn DJ mewn gwyliau cerddoriaeth mawr tra’n cwblhau ei radd Economeg Cymhwysol.
Sefydlodd Nathan y cwmni llwyddiannus Rewise Learning Ltd yn 2008. Cafodd Nathan drafferthion wrth adolygu ar gyfer ei arholiadau TGAU, a dywedwyd wrtho na fyddai’n gallu cael unrhyw beth yn uwch na graddau C. Dyna pryd y sylweddolodd y gallai gofio geiriau caneuon, ond nid ei nodiadau adolygu – ac aeth ati i droi ei wendid yn fusnes.
Hyd yn hyn mae Rewise wedi creu pedwar o adnoddau addysgol a brandiau hyfforddi ac wedi dod i gysylltiad â dros 50,000 o bobl gyda’i gynnyrch a’i wasanaethau llwyddiannus.
Nathan hefyd yw’r cyfarwyddwr a sefydlodd Surf Ability, ysgol syrffio gynhwysol gyntaf Cymru ar gyfer pobl ag anableddau ag anawsterau dysgu, ym Mae Caswell, Abertawe, a chwmni dielw Rewise Foundation CIC, sefydliad dielw sy’n rhoi cymorth a chyfleoedd addysgol i aelodau mwyaf difreintiedig cymdeithas.
Cliciwch yma i ddarllen hanes Nathan yn dechrau ei fusnesau.
Gwenfen