Steve Dimmick
Dimmicks
Trosolwg:
Cwmni ymgynghori recriwtio ar gyfer cwmnïau gan gynnwys Adidas, Google a Canon
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Roedd gen i lawer o wahanol swyddi cyn graddio a dechrau fel swyddog rheoli dan hyfforddiant. Roeddwn i'n gweithio ar sail comisiwn, yn cael 50% o unrhyw fusnes ro’n i’n ei gynhyrchu. Sylweddolais pe byddwn yn fos arnaf fy hun byddai hynny’n 100%, a dyna pan ddeuthum yn entrepreneur. 
 
Dechreuwch. Nawr. Dim flwyddyn nesaf, pan fydd eich cwrs yn dod i ben, nid pan fydd eich gwaith papur mewn trefn. Dechreuwch nawr. 
Steve Dimmick - Dimmicks
 
Rwy'n rhedeg dau brif fusnes - ymgynghoriaeth recriwtio yw Dimmicks, sy’n recriwtio ar gyfer pobl fel Adidas, Google a Canon yn fyd-eang, yn ogystal â gweithio gyda chwmnïau mwy lleol. Rwyf hefyd wedi sefydlu asiantaeth greadigol o'r enw Small Joys yn ddiweddar, sy’n cyflawni ei ddarn cyntaf o waith ar gyfer Croeso Cymru ar hyn o bryd.
 
Y peth anoddaf ydi troi gwaith i lawr, ond rwyf wedi ceisio cadw'r busnes yn fach fel bod gennyf amser i’w dreulio gyda fy nheulu.