Anna Bastek
Anna Bastek
Wolfestone Translation
Trosolwg:
Gwasanaethau cyfieithu, trosleisio, trawsgrifio, prawfddarllen a chyhoeddi bwrdd gwaith proffesiynol
Sectorau:
Iaith / Cyfieithu
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Wolfestone Translation Ltd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyfieithu, trosleisio, prawfddarllen a chyhoeddi bwrdd gwaith proffesiynol ym mhob iaith. Mae Wolfestone yn gwmni sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn un o'r rhai sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru.

Ro'n i'n gweithio oriau hir iawn yn ogystal â fy swydd ran-amser. Achosodd fy aelod staff cyntaf gryn drafferth, ond fe ddysgodd hynny lawer imi am y broses adnoddau dynol. Fe ddysgais am y ffordd Brydeinig o wneud busnes, y system dreth, grantiau, ac ati, ac roedd llawer iawn i'w ddysgu.

"Gofynnwch am lawer o gyngor proffesiynol, siaradwch â phobl eraill sy'n rhedeg eu busnesau eu hunain, a dysgu oddi wrthynt."

Anna Bastek - Wolfestone Translation

Roedd peidio â chael arian i'w fuddsoddi yn y lle cyntaf, dod o hyd i staff a ieithiwyr da, diffyg gwybodaeth am y diwydiant, swyddfeydd llawn, diffyg arian ar gyfer hyfforddiant, a chwmnïau eraill yn bachu ein staff, i gyd ymysg yr anawsterau cychwynnol.

Ar ôl 5 mlynedd, rydyn ni bellach yn cadeirio ein bwrdd masnach yn y DU ac yn gosod safonau ar gyfer y diwydiant. Rydyn ni wedi ennill nifer o wobrau busnes. Erbyn hyn, rwy’n credu bod unrhyw beth yn bosibl.


Cysylltu gyda Anna