Rydym yn gwmni dwyieithog, yn darparu nwyddau i Gymru a thu hwnt. Bûm yn gweithio mewn becws ac mewn Patissiere cyn dechrau fy musnes Siwgr a Sbeis llawn amser gyda ffrind agos. Dechreuodd y busnes mewn siop fechan yn Llanrwst yn gwerthu cacennau, bara a danteithion sawrus.
Paratowch eich cynlluniau busnes ac edrychwch i weld a oes bwlch yn y farchnad ar gyfer eich syniadau. Mae'n bwysig credu yn yr hyn rydych yn ei wneud, gan ddringo'r ystol un cam ar y tro.Rhian Williams a Rhian Owen - Siwgr a Sbeis
Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud yn gyffrous ac yn brofiad heriol oherwydd ein bod yn defnyddio dulliau traddodiadol o goginio, gyda ryseitiau sydd wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau.
Cefais flwyddyn gyntaf lwyddiannus, gan ennill y wobr Livewire, yn cynrychioli Cymru yn Llundain. Mae bod yn fos arnoch eich hun yn rhoi hyblygrwydd o ran oriau i chi.
Rydym wedi gorfod newid cyfeiriad ac addasu syniadau gyda'n cynnyrch nifer o weithiau, gan ddysgu o bob camgymeriad. Nid oedd gennym unrhyw gefndir busnes cyn cychwyn felly mae wedi bod yn gromlin ddysgu go iawn. Heddiw, rydym yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan gyflogi pobl leol.
Gwefan: www.siwgrasbeis.com