Ceri Williams
HS Systems
Trosolwg:
Darparu gwasanaeth ymgynghori ynghylch iechyd a diogelwch a diogelwch tân
Sectorau:
Ynni a Gwasanaethau Amgylcheddol a Nwyddau
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Rydw i wedi gweithio yn y diwydiant moduron ers gadael yr ysgol pan yn 17, ond fe benderfynais fy mod eisiau'r rhyddid o fod yn berchen ar fy musnes eich hun, a sefydlais HS Systems pan oeddwn yn fy 40au.

"Mae gweithio i chi eich hun yn cynnig cyfleoedd gwych - credwch eich bod am lwyddo a pheidiwch â bod ofn methu."

Ceri Williams - HS Systems

Y fasnach foduron oedd fy nghefndir, felly gwyddwn y byddai'n rhaid i fy musnes ymwneud â'r maes yma. Fodd bynnag, ro’n i am wneud rhywbeth nad oedd neb arall yn ei gynnig.

Fe ystyriais y syniad o ddarparu gwasanaeth ymgynghori ynghylch iechyd a diogelwch.

Erbyn hyn mae HS Systems yn cynnig ymgynghoriaeth ynghylch iechyd a diogelwch a diogelwch tân, yn ogystal â chynnyrch untro a chytundebau trydanol. Rydym bellach yn gweithio gyda llawer o gwmnïau gwerthu ceir ar draws de Cymru.