Angharad Gwyn ffoto
Angharad Gwyn
Adra
Trosolwg:
Cwmni adwerthu sy'n arbenigo mewn anrhegion a nwyddau cartref ffasiynol a chyfoes o Gymru.
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Gwynedd

Fe sefydlwyd Adra yn 2007 fel cwmni adwerthu ar-lein sy'n arbenigo mewn anrhegion a nwyddau cartref ffasiynol a chyfoes o Gymru. Mae popeth yr ydym yn ei werthu naill ai wedi'i wneud yng Nghymru, wedi'i gynllunio gan ddylunwyr o Gymru, neu'n cynnwys yr iaith Gymraeg. Mae ein cynnyrch yn cynnwys ategolion ar gyfer y cartref a'r gegin, cynhyrchion ymdrochi, anrhegion i blant, gemwaith, bagiau a chardiau cyfarch.

Fe ddechreuais fy nghwmni yn fy nghartref fy hun cyn symud i safle ym Mharc Glynllifon yn 2013, ac mae ganddon ni siop yno hefyd erbyn hyn. Mae'r busnes wedi mynd o nerth i nerth ac mae'n arwain y farchnad drwy werthu nwyddau i gwsmeriaid preifat yn ogystal â siopau adwerthu.

"Gwnewch eich gwaith cartref yn drylwyr yn eich amser sbâr wrth weithio’n amser llawn i ariannu’r ymchwil. Ewch ati'n raddol wedyn i weithio'n rhan-amser nes bydd eich busnes yn gallu eich cefnogi fel gwaith amser llawn."

Angharad Gwyn - Adra

Fe fues i'n gweithio i'r BBC am dros saith mlynedd, ond ro’n i eisiau mynd yn ôl i fyw i gefn gwlad gogledd Cymru. Gan wybod na fyddwn yn gallu parhau i weithio iddyn nhw a byw yno, fe benderfynais greu fy musnes fy hun.

Fel pob entrepreneur newydd, roedd fy mlwyddyn gyntaf ym myd busnes yn un unig ac ansicr oherwydd fy niffyg profiad. Roedd cael gafael ar gyngor arbenigol a'r sgiliau perthnasol yn yr ardal yn dalcen caled, a bu'n rhaid imi weithio yn ddi-dâl am ddeng mis er mwyn lansio fy musnes. Erbyn hyn, rydw i'n falch iawn o weld y busnes yn llwyddo. Mae hefyd yn bleser cael adborth gwych gan gwsmeriaid a gwybod bod fy holl waith caled wedi talu ar ei ganfed.

Rydw i eisiau ysbrydoli pobl ifanc i ddechrau busnes ac aros yng nghefn gwlad yn lle dilyn yr A470 i Gaerdydd!