Mae Ceir Cymru yn garej sy'n gwerthu amrywiaeth o geir mewn dau safle yng ngogledd Cymru. Mae'r ceir yn tueddu i fod yn rhai eithaf newydd a heb lawer o filltiroedd ar y cloc.
Cymerais yr awenau er mwyn canolbwyntio ar y busnes ar ôl bod yn athro am 13 mlynedd. Fy mrawd, a fy nhad cyn hynny, oedd yn arfer rhedeg y busnes.
Rwy'n credu bod cyfleoedd gwych ar gyfer entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd, a hoffwn eu hannog i wireddu eu breuddwydion.
Rydw i wedi gwneud llawer o gamgymeriadau gyda'r busnes dros y blynyddoedd, ond rydw i bob amser wedi ceisio dysgu gwersi.