SMM Restaurants Ltd
Christopher Siores
SMM Restaurants Ltd
Trosolwg:
Marchnata trwy Gyfryngau Cymdeithasol ar gyfer y diwydiant bwytai
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Mae entrepreneur ifanc a myfyrwyr seicoleg o Brifysgol Bangor wedi cyfuno ei gefndir mewn seicoleg gyda'i sgiliau rhagorol mewn marchnata ar-lein i sefydlu Social Media Marketing Restaurants Ltd (SMMR).

 

Gan ei fod bob amser wedi eisiau bod yn fos arno'i hun a defnyddio'r hyn a ddysgodd yn y brifysgol, sefydlodd Chris y cwmni ym mis Ionawr 2017.  Mae'n gwybod ei fod ymhlith yr 1% uchaf o bobl yn y byd sy'n gwybod sut i farchnata'n effeithiol ar-lein ar draws holl lwyfannau prif ffrwd y cyfryngau sy’n felly eu gosod ar wahân i gystadleuwyr.  ‘Mae bwlch amlwg yn y farchnad' meddai,' .. y cyfryngau cymdeithasol yw dyfodol marchnata a dyna lle mae fy noniau'.

 

Mae SMMR yn Gwmni Cyfyngedig gydag arbenigedd mewn brandio, adrodd straeon am frandiau, marchnata cymdeithasol ac ar y rhyngrwyd ar gyfer bwytai. Meddai am y busnes 'ein gwaith yw cynhyrchu rhagor o werthiant i'ch busnes ac i sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau'r cyfryngau cymdeithasol ac yn eu defnyddio’n llwyddiannus. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth ymgynghori am gyfryngau cymdeithasol a strategaethau i wneud y defnydd gorau o wefannau."

 

Bu Chris yn cymryd rhan yn ddiweddar mewn gweithdai a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru 'Sut i weithio ar eich liwt ei hun' a 'Sut i fod yn ymgynghorydd' oedd ar gael trwy Byddwch Fentrus ac a fu'n gymorth iddo gyda rhai o'r agweddau mwyaf ymarferol o sefydlu busnes. Bydd hefyd yn chwilio am gefnogaeth bellach trwy'r cynllun mentora 'Syniadau Mawr Cymru'.

 

Dewiswyd ei fusnes yn ddiweddar ar gyfer ‘Made in Bury Business Academy' ac oherwydd ei aelodaeth mae wedi cael mynediad at ragor o gyllid a chymorth gan ddau fentor a fu'n gweithio i Nike fel rheolwyr rhyngwladol.

 

Mae ganddo uchelgais i wneud y busnes yn un rhyngwladol ac felly nid yw wedi ei ddigalonni gan y mân heriau y mae wedi eu hwynebu hyd yma fel problemau gyda sefydlu'r wefan a chael hyd i'r bobl iawn i'w cyflogi. Ei gyngor i unrhyw ddarpar entrepreneuriad yw y dylid 'bwrw iddi a dysgu ar hyd y ffordd. Nid yw'r amser byth yn berffaith'.