Myfyriwr o Brifysgol Abertawe’n cyfuno gwyddoniaeth â’i ddawn entrepreneuraidd i ddatblygu diod iach
Mae myfyriwr o brifysgol Abertawe sy’n hen law ar entrepreneuriaeth yn cynhyrfu’r dyfroedd yn y diwydiant diodydd ar ôl datblygu diod iach sy’n cyfuno sudd ffrwythau gydag ocsigen pur.
Jackson Pickard, sydd newydd gael ei un ar hugain, yw cyd berchennog OxyOse, busnes newydd arobryn sy'n cynnig dewis o ddiod yn lle’r diodydd egni llawn siwgr, un sy’n rhoi hwb llawn ocsigen, naturiol i gwsmeriaid.
Jackson a’i bartner busnes, Julieta Ose Ahmedze, 21 oed erbyn hyn, gafodd y syniad y tu ôl i OxyOse pan oedd y ddau’n 18 oed.
Doedd y syniad erioed wedi’i ddatblygu’n fasnachol yn y DU o’r blaen ac roedd y ddau’n awyddus i’w ddatblygu ymhellach.Archebodd Jackson beiriant cymysgu arbenigol sy’n troi sudd ffrwythau’n ewyn ac yn chwistrellu ocsigen pur i'r cymysgedd. Y canlyniad yw diod egni sudd ffrwythau gyda llai o galorïau, nad yw’n colli’i flas ac sy’n delfrydol i’w yfed cyn ymarfer corff. Dangosodd Jackson ei ddawn entrepreneuraidd yn gynnar iawn pan sefydlodd siop bwyd-a-diod-ar-fynd yn ei ysgol uwchradd amser cinio a hyd yn oed ddatblygu steil o ddillad yn 17 mlwydd oed gyda ffrind.
Erbyn hyn mae Jackson yn dilyn ei astudiaethau mewn Rheolaeth Busnes yn y brifysgol a hefyd yn rheoli datblygu OxyOse. Ar hyn o bryd mae’r ddau yn gobeithio gweld OxyOse ar werth mewn caffis iechyd a champfeydd ledled y wlad.
Ar ôl datblygu OxyOse, teithiodd Jackson a Juliet hyd a lled y wlad yn codi proffil y brand gan gynnal stondinau dros dro mewn digwyddiadau busnes mawr gyda chwmnïau megis Barclays, TwC a’r Financial Times.
Mae gan Jackson a’i bartner busnes hyd yn oed gyswllt busnes ym Mwlgaria, sy’n rheoli digwyddiadau a gwerthiannau OxyOse tramor.
Meddai Jackson: "Gydol ein hamser yn tyfu OxyOse, rydyn ni wedi bod yn ddigon lwcus i gael arian dechrau busnes gan gynnwys benthyciad sydd wedi’n galluogi i fuddsoddi arian mewn offer ac i ddatblygu'n brand.
"Rydyn ni hefyd yn brysur yn archwilio i’r wyddoniaeth y tu ôl i’r ddiod ac yn edrych i’r mewn i’r posibilrwydd o botelu OxyOse, sef y nod yn y pendraw. Ond ar hyn o bryd, byddwn yn canolbwyntio ar werthu mewn bariau iechyd a champfeydd poblogaidd megis Easy Gym neu David Lloyd."
Yn ystod Wythnos y Glas, daeth Jackson i gysylltiad â Dave Bolton, Hyrwyddwr Menter Prifysgol Abertawe. Cafodd ei gyflwyno i’r gwasanaethau sydd ar gael gan Syniadau Mawr Cymru, gan gynnwys y digwyddiad blynyddol Bŵtcamp i Fusnes.
Meddai Jackson: "Roedd Bŵtcamp i Fwsnes yn un o’r pethau gorau, o bell ffordd, i mi fod yn rhan ohono y llynedd. Rwy wedi gallu adeiladu rhwydwaith wirioneddol yma yn Abertawe a’r cyffiniau ehangach ac mae’n amlwg i mi fod Cymru’n lle sy’n wirioneddol feithrin entrepreneuriaid ifanc fel fi. Mae llawer iawn o gefnogaeth ar gael."
Wrth weld y cyfle i ehangu’i rwydwaith entrepreneuriaeth ymhellach fyth, sefydlodd Jackson Gymdeithas Entrepreneuriaeth gyntaf Prifysgol Abertawe, grŵp sy’n annog myfyrwyr i ddilyn eu huchelgeisiau busnes. Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru a Phrifysgolion Santander, y ddau’n bresennol yn y lansiad, bydd y gymdeithas yn cynnig mentrau wythnosol i'w haelodau gan gynnwys siaradwyr allanol a gweithdai, llawer yn cael eu cynnal gan Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru - pobl fusnes llwyddiannus sy'n fentoriaid brwd i entrepreneuriaid ifanc.
Er ei fod yn ei waith yn cadw’r ddysgl yn wastad rhwng OxyOse, ei astudiaethau a’r Gymdeithas Entrepreneuriaeth, mae Jackson yn dal i ddatblygu dau syniad ap - un ar gyfer y diwydiant diogeledd ac un ar gyfer safle rhwydweithio cymdeithasol, y ddau yn eu babandod ar hyn o bryd.
Meddai Dave Bolton, Pencampwr Menter Prifysgol Abertawe, sydd wedi arwain Jackson ers cyfarfod am y tro cyntaf: "Mae Jackson yn nodweddiadol o’r bobl ifanc arloesol, frwd y mae Syniadau Mawr Cymru mor falch o’u cefnogi. Mae ymhell o flaen y person cyffredin 20 oed, mewn datblygu syniadau busnes newydd i greu cymdeithasau entrepreneuriaeth. Mae Jackson yn fodel rôl gwych i’w gyd fyfyrwyr ac i entrepreneuriaid ifanc. Rydym i gyd yn eiddgar i weld ei fusnes yn esblygu ac yn tyfu."