Roeddwn i am gadw’n heini erioed, ond doeddwn i erioed yn gallu cadw at drefn ymarfer – rhoddais i gynnig ar ddosbarthiadau ffitrwydd a rhedeg, ond roedd popeth yn anniddorol i mi.
Ar ôl genedigaeth f’ail blentyn, roeddwn i’n awyddus iawn i dynhau fy nghorff, a des i ar draws cylchynu hwla. Dim ond tipyn o sbort oedd hi ar y dechrau, ond cefais hi mor gaethiwus, fel y gwnaeth fy merch a’i ffrindiau hi hefyd. Dyna pryd penderfynais sefydlu Hoola Nation, gan rannu f’angerdd a gwneud ffitrwydd yn sbort i bobl o bob oedran.
Ers hynny, rwyf wedi cyflogi 12 o hyfforddwyr ac wedi mwynhau mwy na deng mlynedd o ddysgu, yn ogystal â thorri Record y Byd am Gylchynnu Hwla a Marathon Llundain ar hyd y ffordd!
Fit Philosophy ltd. - Cwmni sy'n creu gweithleoedd bywiog iach trwy ddarparu atebion iechyd corfforaethol effeithiol i'r gweithwyr.
Drwy'm gwaith parhaus gydag ysgolion a busnesau ar draws yr ardal, dechreuais sylwi ar batrwm yn y cwynion iechyd a'r gwahanol ffyrdd y roedd cwmnïau yn delio â nhw (neu DDIM yn delio â nhw). Rwyf wedi penderfynu datblygu fy ymagwedd fy hun at les, sy'n bodloni amcanion busnes, ond mae'n dal yn hwyl ac yn gadarnhaol.
Rwy'n cydweithio'n agos â'm tîm ehangach talentog a phrofiadol, i ddarparu ateb wedi'i deilwra i gwmnïau i gwrdd ag amcanion busnes ac anghenion gweithwyr, gan annog ymdeimlad o fwynhad.
Ffactorau llwyddiant: Cael ffocws a’r brwdfrydedd dros beth ryw’n ei wneud; meddu ar angerdd cryf dros fy musnes
Gwefan: www.hoolanation.co.uk