Ro’n i’n ddigybl mewn ysgol uwchradd yn Llandudno ac, fel y rhan fwyaf o'r disgyblion, doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn am ei wneud. Fe ddechreuais weithio ym maes hysbysebu a chyhoeddusrwydd mewn swydd oedd fy nhad wedi’i threfnu ar fy nghyfer am fy mod yn dda gyda chelf. Fe newidiais swyddi ddwywaith wedi hynny a chael fy nghyflogi gan ewythr un o fy ffrindiau ym maes addurno mewnol, a chanddo ef y dysgais y grefft.
Fe benderfynais sefydlu fy musnes addurno mewnol fy hun ac rydw i bellach wedi bod yn rhedeg y busnes yng ngogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Mae ein ystafell arddangos yng Nghraig-y-Don, Llandudno, ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau.
Yn bennaf, rydyn ni’n gwerthu ceginau o safon uchel wedi’u gosod. Fi sy’n dylunio ac yn cyflwyno’r ceginau hyn. Rydyn ni hefyd yn gwerthu dodrefn ystafell wely wedi eu gosod, goleuadau, lloriau, dodrefn meddal a phapur wal.
Roeddwn yn ymgynghorydd dylunio mewnol ar gyfer Lloyd Homes yng ngogledd Cymru. Ar ôl cwblhau’r gwaith yma, penderfynais y byddai’n well cael ystafell arddangos yn hytrach na swyddfa. Fe agorais yr ystafell arddangos yn 2001 ac mae wedi datblygu’n naturiol sy’n addasu i ofynion y cleientiaid.