Fe gefais fy ngeni yn Bournemouth, a symudais i Lanelltyd ym 1993 i ymddeol. Fe astudiais Gelf a Dylunio mewn coleg yma cyn sefydlu fy hun fel artist hunan-gyflogedig ym 1999.
Mae gen i fy ngweithdy celf fy hun lle rydw i'n arlunio ac yn gweithio i gomisiwn a gwneud gwaith ar gyfer arddangosfeydd. Rydw i'n addysgu ac yn mentora hefyd. Rydw i wedi curadu arddangosfeydd ac rydw i hefyd yn gwneud rhywfaint o waith mewn orielau.
"Byddwn yn awgrymu y dylech fynd amdani. Byddai cael mentor busnes yn beth da. Byddwch yn realistig, edrychwch ar syniad yn wrthrychol, gwnewch eich ymchwil a siaradwch â rhywun sydd heb gysylltiad uniongyrchol â'r prosiect."
Sonja Benskin Mesher - Sonja Benskin Mesher RCA UA
Y peth gorau yw gallu cymryd egwyl pryd bynnag ydw i eisiau!
Rydw i’n cael llawer o ryddid a dydw i ddim yn atebol i neb arall heblaw am fi fy hun. Pan fydda i'n cyflawni rhywbeth, rwy'n gwybod mai fi sy'n gyfrifol amdano ac mae hynny'n rhoi gwefr.
Os ydw i'n gweithio i gomisiwn, fy nod yw plesio'r sawl fy nhalu.