Lowri Jones
Gemwaith Wyn Jewellery
Trosolwg:
Creu a phersonoli gemwaith i'w chwsmeriaid
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Conwy

Ar ôl graddio mewn Dylunio Cynhyrchion o Brifysgol Bangor, Gwyddai Lowri ei bod eisiau rhedeg ei  busnes ei hun. Wedi ennill tipyn o brofiad gwaith yn gweithio i wahanol gwmnïau gemwaith, dechreuodd greu ei chasgliad gemwaith ei hun o gartref gan weithio’n rhan amser mewn caffi. Daeth ei hysbrydoliaeth o’i phraidd bach ei hun o ddefaid brid prin Longwool, a dechreuodd greu gemwaith arian wedi’i bersonoli, wedi’u cyfuno â gwlan o’i defaid ei hun. Blwyddyn ar ôl gwerthu ar-lein ac mewn ffeiriau, cymerodd gam mawr ac agor siop ar y stryd fawr yng Nghonwy, a dyna lle mae’n gwneud y gemwaith nawr yn ogystal â gwerthu cynhyrchion eraill a wnaed â llaw yn y DU.