Blue MacAskill
Blue MacAskill Art Studio
Trosolwg:
Artist and Art Studio
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Powys

Graddiodd MacAskill o Ysgol Gelf Wimbledon gan ennill gradd Meistr mewn Celf Gain yn 2005 ac ers hynny mae Blue wedi arddangos ffilmiau a chynnal arddangosfeydd ar draws y Deyrnas Unedig yn ogystal â De Affrica, Sweden, a Phortiwgal. Cafodd ei dyfarnu fel y gwneuthurwr ffilmiau ifanc mwyaf addawol yn ystod Gŵyl Ffilmiau Bae Abertawe ac yn ddiweddar cynhaliodd arddangosfa fel Artist Preswyl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Arddangoswyd gwaith y prosiect hwn o’r teitl ‘Duwiesau Diwydiant’ yn Eisteddfod Genedlaethol 2006 yn Felindre, ger Abertawe. Cafodd y gwaith ei arddangos yn yr Amgueddfa tan fis Ebrill 2008. Fel rhan o’r cyfnod preswyl comisiynwyd darn sain ar y cyd â’r band gwerin Cymraeg o Abertawe, SILD. Meddai MacAskill, ‘Rwy’n mwynhau gweithio gydag artistiaid a grwpiau eraill. Gall wneud i brosiect gyrraedd cynulleidfa ehangach ac rydych chi’n dysgu cymaint am sut i greu celf a chyfrannu at y gymuned ddiwylliannol yn gyffredinol.’ Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae Blue hefyd wedi gweithio ar brosiectau cymunedol mewn ysgolion gyda phobl ifainc gan archwilio syniadau ar gelf ac ymarfer celf. Ymhlith ei harbenigedd mae: Ffilm, Animeiddio, Claimeiddio, Artist Digidol, Apiau llechi, Apple ac Android ar gyfer animeiddio traciau sain a golygu ffilmiau, Cerflunio, Arlunio, Argraffiadau a Gosodiadau. Wedi derbyn hyfforddiant llawn ar gyfer Final Cut Pro HD. Cyhoeddiadau llawn Creative Suite. Ar draws meddalwedd Windows ac Apple Mac.