Eich Syniadau Busnes

Hoffech chi weithio i chi eich hun, ond heb feddwl am y syniad a allai newid eich bywyd? Peidiwch â mynd i banig!

There's so many ways you can get creative. You might not have even realised it yet, but you may have already found the idea and you just need to find a way to tap into it. 

Gallwch fod yn greadigol mewn sawl ffordd. Efallai eich bod heb hyd yn oed sylweddoli eto, ond gallech fod eisoes wedi meddwl am syniad ond bod angen help arnoch i’w ddatblygu.

Dechreuwch arni drwy ofyn y cwestiynau hyn i chi eich hun:

  • ·         Pa fath o waith sy’n addas i chi? Dyn yn edrych ar syniadau ar wal
  • ·         Beth yw eich hobïau a’ch diddordebau?
  • ·         A oes gennych sgil y mae galw amdano?
  • ·         Allwch chi sylwi ar gyfle newydd?
  • ·         Pa rwystrau y bydd angen i chi eu goresgyn?
  • ·         Allwch chi ddatrys problem?

Cofiwch - nid yw pob busnes yn dechrau gyda fflach o ysbrydoliaeth. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o fusnesau llwyddiannus yn seiliedig ar fersiynau gwell o rywbeth sydd eisoes ar gael. Nid ydyn nhw’n ddyfeisiad newydd neu’n syniad radical!

 

Ysgrifennwch bopeth sy’n dod i’ch meddwl ac fe ddaw eich syniad yn fyw. Gallech fod â gyrfa mewn golwg, ond ydych chi wedi ystyried ei throi yn fusnes a gweithio i chi eich hun ryw ddiwrnod?

 

Gallwch edrych ar eich syniadau busnes yn fanylach drwy gofrestru ar gyfer ein Dalenni Ffeithiau Busnes (Mae hwn yn ddolen i safle allanol) ac ar Arweiniad Busnes Cymru ynghylch Sut i Ymchwilio eich Syniad Busnes a’i Ddatblygu.

 


Felly, mae gennych eich syniad? Byddwch nawr am wybod sut y gallwch ei ddiogelu

Gallai eich syniad newydd fod yn unrhyw beth - cynnyrch/gwasanaeth newydd, brand newydd, neu hyd yn oed yn gân newydd!

 

Gallwch ddiogelu eich syniad busnes mewn sawl ffordd ond rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn syniad gwreiddiol yn gyntaf. Edrychwch ar Ganllaw Busnes Cymru ar gyfer Dod o Hyd i Gymorth i Ddyfeiswyr.