Rydym yn fusnes teulu drydedd genhedlaeth sy’n cynhyrchu Teisen Bara Brith Draddodiadol, Torth Bara Brith, Pice ar y Maen, Teisen Frau a Mins Peis ar gyfer nifer o’r manwerthwyr mawr, cyflenwyr bwydydd arbenigol, gwasanaethau bwyd a labeli preifat.
Cychwynnodd fy nhaith i mewn i’r busnes ym 1992 pan briodais ag ŵyr y teulu Williams. Cyfrannais at ochr gwerthiannau a marchnata’r busnes ac roeddwn yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau ym maes Rheoli ac Arweinyddiaeth a chwblheais hyn yn 2013 trwy Lead Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
Bu fy sgiliau’n ysbrydoliaeth i mi gymryd llwybr amrywiol yn lle dilyn trywydd cynhyrchion popty traddodiadol megis bara, mewn marchnad gystadleuol a marchnad sy’n dirywio.
Mae ein hangerdd am fwydydd Cymreig ac am gadw dilysrwydd traddodiadol ac ansawdd eithriadol ein cyndadau wedi arwain atom yn ennill nifer o wobrau gan fy ngrymuso i weithio gyda chwmni bwyd blaenllaw o Gymru a oedd yn brofiad gwobrwyol iawn.
Mae bod yn fos ar eich hun yn rhoi’r hyblygrwydd i chi herio eich hun a mwynhau eich ein, i yrru cyfleoedd a all wneud busnes yn llwyddiannus ac yn fuddiol.
CYNGOR AR GYFER ENTREPRENEURIAID IFAINC
Gallwch gyflawni eich nodau a gwireddu eich breuddwydion. Credwch yn eich hun ac ymgysylltwch â chynifer o bobl wahanol â phosib ar hyd eich taith i helpu gyda’r heriau ac i gynnig mwy o gyfleoedd y byddwch yn eu mwynhau.