Mae Katie Darlington London yn label arobryn Prydeinig sy’n gweithgynhyrchu yn y DU. Wedi ei geni a’i magu ar arfordir Cymru, symudodd Kate Darlington i Lundain lle graddiodd ym Mhrifysgol Kingston yn 2013. Ers hynny, mae Katie wedi denu cynulleidfa eang gyda’i chasgliad capsiwl A/W sy’n cynnwys dillad sidan wedi’u hargraffu’n hardd.