Ble dylwn ddechrau fy musnes?
Dechrau busnes o gartref
Nid yw pob busnes yn gweithredu mewn ffatrïoedd neu adeilad masnachol. Os ydych yn ystyried dechrau busnes, dylech ystyried y posibilrwydd o’i gynnal gartref oherwydd gallai hynny eich helpu i:
- Arbed costau cychwynnol oherwydd ni fydd angen swyddfa/adeilad arnoch
- Arbed amser a fyddech wedi gorfod ei dreulio yn chwilio am eiddo addas
- Osgoi ymrwymo i unrhyw gytundebau tenantiaeth
- Cael help gan deulu a ffrindiau
- Gweithio’n hyblyg, yn enwedig os ydych yn parhau i fod mewn addysg neu’n gweithio
- Arbed amser ac arian yn teithio i’r gwaith
Fodd bynnag, mae nifer o bethau i’w hystyried, yn enwedig os ydych yn byw gartref neu mewn llety a rentir. Gall gweithio gartref effeithio ar forgais, yswiriant cartref, treth, y bobl eraill sy’n byw yno a hyd yn oed eich cymdogion.
Gallai’r canlynol effeithio arnoch hefyd:
- Pobl eraill yn tarfu arnoch neu’n torri ar eich traws
- Unigrwydd a theimlo’n bell o bob man
I gael gwybod rhagor am gynnal busnes gartref, darllenwch y canllaw Busnes Cymru am Ddechrau Busnes Gartref (ar wefan Busnes Cymru).
Gallech ddechrau eich busnes mewn canolfan neu rywle arall sy’n cael ei rannu
Mae canolfannau a mannau eraill a rennir ar gael ledled Cymru.
Bydd y Canolfannau Rhanbarthol yn:
-
Wrecsam ac M-Sparc, Gaerwen gyda chysylltiadau yng Nghanolfan Busnes Conwy, Porthmadog, Rhuthun, Llangefni, Rhyl, Botwnnog a Dolgellau
-
Adeilad Pryce Jones, Y Drenewydd gyda chysylltiadau â champws Arloesi a Menter ym Mhrifysgol Aberystwyth, campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Llanbedr a champws Coleg Ceredigion
-
ICE, Caerffili gyda chwmnïau llai i gael eu cadarnhau gyda Tasglu'r Cymoedd ym Merthyr, Blaenau-Gwent, Pen-y-Bont ar Ogwr, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.
-
Yr Egin, Sir Gaerfyrddin gyda chysylltiadau yng Nghanolfan Arloesi y Bont yn Sir Benfro, The Beacon Llanelli a Choleg Sir Gar
Bydd entrepreneuriaid yn y canolfannau yn cael mynediad at yr amrywiol gymorth sydd ar gael gan Busnes Cymru a phartneriaid gan gynnwys colegau, prifysgolion, awdurdodau lleol a Banc Datblygu Cymru, sy'n cynnig system gefnogi syml a gweladwy i entrepreneuriaid, gyda chysylltiadau da, fel a hyrwyddwyd yn y cynllun Creu Sbarc.
Agorodd Canolfan Wrecsam yn swyddogol ym mis Mai 2018 ac mae 40 aelod yno eisoes. Rhagwelir y bydd y 4 ganolfan sy'n weddill yn gweithio'n llawn erbyn Ionawr 2019.
Cewch wybod rhagor am ddewis adeiladau yng Nghanllaw Busnes Cymru am Adeiladau
Gallwch chwilio am dir ac adeiladau sydd ar gael i’w rhentu ledled Cymru ar Gronfa Ddata Adeiladau Busnes Cymru.