Jon Williams
Jon Williams
Crime Solvers Ltd
Trosolwg:
Mae Crime Solvers Ltd yn darparu gweithdai i ysgolion a grwpiau eraill ar wyddoniaeth fforensig ac ymchwiliadau troseddol. Mae’r gweithdai’n ceisio helpu myfyrwyr i ddatblygu eu gallu i feddwl yn gritigol a sefydliadol, eu gallu i gyflwyno a gweithio fel
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Sefydlwyd Crime Solvers Ltd ym Mawrth 2015. Ar ôl gyrfa o 30 mlynedd ym maes plismona penderfynais ymddeol a defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd a gefais wrth ymchwilio i droseddau difrifol i ddatblygu busnes a fyddai’n cynnig cyfle unigryw ac arloesol i helpu i ddatblygu pynciau STEM mewn ysgolion.

Cefais fy ysbrydoli gan fusnes tebyg ond roeddwn eisiau datblygu model oedd yn fwy unigryw o safbwynt y deunyddiau ac a oedd yn rhoi profiad dysgu unigryw a diddorol.

Mae marchnata’n gallu bod yn anodd, yn enwedig tynnu sylw at eich cynnyrch a pherswadio pobl o’r gwerth y gall ei gynnig i’w myfyrwyr. Ond trwy fuddsoddi fy amser yn ddoeth ac ymweld yn bersonol ag ysgolion, gan egluro’r cysyniad i Benaethiaid a datblygu perthynas bersonol, sylweddolais fod yr ysgolion yn ymddiried ynof a chefais sawl geirda yr wyf wedi’u defnyddio i farchnata fy musnes ymhellach.

Trwy fod yn fos arnaf fy hun rwy’n gallu bod yn hyblyg. Gallaf neilltuo amser i mi fy hun a fy nheulu a gallu dylanwadu ar y ffordd mae fy musnes yn parhau i ddatblygu.

Fy nghyngor fyddai – gwnewch eich gwaith ymchwil i’r galw posibl am y busnes/cynnyrch yr ydych eisiau ei sefydlu orau y gallwch. Holwch bobl y tu allan i’ch teulu agosaf a’ch ffrindiau am hyfywedd eich syniad cyn buddsoddi arian ynddo. Manteisiwch ar y cyfleoedd hyfforddi a’r cyngor sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi entrepreneuriaid newydd/ifanc. Rwy’n wirioneddol werthfawrogi’r gefnogaeth a gefais gan Busnes mewn Ffocws cyn mentro!