Matthew Jenkins from Rivermouth Productions
Matthew Jenkins
Rivermouth Productions
Trosolwg:
Rwy’n ffilmio ac yn creu cynnwys ar gyfer cwmnïau.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mi wnes i greu Rivermouth Productions yn 2018. Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod am weithio i mi fy hun yn hytrach nag i rywun arall. Rydw i wedi hoffi’r ffaith fy mod yn gallu gwneud fy mhenderfyniadau fy hun am sut i redeg fy musnes. Rwy’n ffilmio ac yn creu cynnwys ar gyfer cwmnïau fel BikePark Cymru a Welsh White Collar Boxing. Rydyn ni hefyd yn creu ffilmiau byr a fideos cerddoriaeth i bobl, gan ganolbwyntio ar bod mor greadigol â phosib fel busnes.

 

Y peth gorau am fod yn fos arnaf fi fy hun yw fy mod i’n cael penderfynu i ba gyfeiriad rwy’n mynd â fy musnes, a fy mod yn cael penderfynu pa gleientiaid rydw i eisiau gweithio â nhw.

Y peth gorau am fod yn fos arnaf fi fy hun yw fy mod i’n cael penderfynu i ba gyfeiriad rwy’n mynd â fy musnes, a fy mod yn cael penderfynu pa gleientiaid rydw i eisiau gweithio â nhw. Roeddwn i wedi ystyried gweithio yn y diwydiant priodasau, ond penderfynais ffilmio digwyddiadau a busnesau gan nad oedd llawer o bobl yn gwneud hynny ar y pryd. Mae’r ffaith nad oes gen i hierarchaeth o bobl uwch fy mhen yn deimlad anhygoel.

 

Mae pris offer yn her wrth gychwyn busnes, ac wrth geisio sicrhau bod gennych y dechnoleg ddiweddaraf i gael y blaen ar eich cystadleuwyr. I ddechrau, roedd gen i ofn bod yn gwbl hunangyflogedig, ond dyna’r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.