David Cartwright
David Cartwright
Peda Consulting
Trosolwg:
Hyfforddwr Gwella Perfformiad gyda phrofiad eang mewn gweithredu Lean/Six Sigma a phrofiadau hyfforddi.
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Yr wyf yn Hyfforddwr Gwella Perfformiad gyda phrofiad eang mewn gweithredu Lean/Six Sigma a phrofiadau hyfforddi. Rwyf wedi darparu cefnogaeth technegol, wedi creu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi, ac wedi hyfforddi ar bob lefel mewn cwmniau megis Tata, Transport for London, Eaton Aeropspace, BA, Ricoh, Superdrug, National Grid ac amryw  SME's. Ers 2007 rwyf wedi rhedeg fy nghwmni fy hun, mewn Ymgynghori a Hyfforddi, gan weithio'n uniongyrchol gyda chleientiaid, hefyd fel cysylltai i gwmniau ymgynghorol mwy, fel Unleash & Engage, Project 7, Unipart Expert Practices, SA Partners, 100% Effective, The Highland Group, a nifer o gwmniau hyfforddi llai.

Cychwynais y cwmni er mwyn cael y cyfle i weithio gydag ystod mwy amrywiol o sefydliadau ac unigolion nag a fedrwn wrth weitho gydag un cyflogwr. Mae'n rhoi mwy o hyblygrwydd a dewis i mi yn yr hyn rwyf yn ddarparu i gleientiaid, a'r modd rwyf yn ei gyflwyno. Mae pob un client yn cael yn union beth mae angen, a phryd mae ei angen.

Cefais fy ysbrydoli drwy siarad ag unigolion oedd wedi cymryd yr un camau, ac oedd ag amcanion a gwerthoedd oedd yn debyg i'n rhai fy hun.

Mae'r dasg anodd o farchnata ac ennill cleientiad tra'n brysur yn gweithio gyda chlientiaid yn parhau i fod yn sialens. Mae hyn wedi bod, ac yn parhau i fod, hyd yn oed yn anos i ennill gwaith, hyd yn oed pam fod gen i ddigon o amser!

Un o'r pethau gorau am fod yn fos arnaf fy hun ydy cael gweithio gydag ystod anferth o glientiaid. I mi, mae'r pwyslais yn gwyro tuag at y canlyniadau, mae'n berson-ganolog, ac yn hyfforddiant o gyd-weithio, dosbarthu gwelliannau cynaladwy, gyda phobl, nid i bobl. Mae fy nghymhwyster NLP a Hyfforddiant Gweithredwr yn ategu fy ngallu i arwain ac arddangos newidiadau diwylliannol o fewn mannu gaith fy nghlientiaid.

Fy nghyngor i eraill fyddai i ddeall eich cryfdreau, a'r hyn rydych yn garu gwneud. Rhowch 100% iddo yn gyson, a datblygwch rwydwaith o bobl y gellwch ddibynnu arnynt i roi gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth, pan fyddwch ei angen - a phan na fyddwch ei angen. Gwrandewch yn astud, siaradwch lai, arhoswch yn 'wyrdd', gan ddysgu rhywbeth bob dydd, heb fyth fod yn fodlon.