Mae Capital Law wedi tyfu’n gyflym ers pan gafodd ei sefydlu yn 2006. Mae dros 150 o bobl yn gweithio yma, ac mae hanner o rhain yn gyfreithwyr cymwysedig. Mae llawer wedi ymuno â ni o rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r DU, ac mae pob un wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf tra’n cadw cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Mae ein pencadlys yng Nghaerdydd, mae gennym swyddfa yn Llundain, ac rydym yn helpu cleientiaid ym mhob cwr o’r byd.
Ar ôl gweithio mewn hen gwmnïau cyfreithiol ffurfiol a drud am flynyddoedd, sylweddolais i a rhai o’m partneriaid y gallem wneud pethau’n wahanol.
Roedd arnom eisiau creu dewis arall – cwmni cyfraith fasnachol a allai gystadlu â chwmnïau mawr y Ddinas a chwmnïau rhyngwladol ledled Ewrop, ond a fyddai wedi’i leoli’n falch yng Nghymru.
Drwy wneud hynny, roeddem yn teimlo y gallem gyflawni dau beth: diwylliant gwaith gwahanol, lle gall pobl fod yn nhw eu hunain, a mwy o gosteffeithlonrwydd.
Cefais fy ysbrydoli gan John Loosemore, Sylfaenydd ac Uwch Bartner yn Loosemore Solicitors. Fo oedd yn fy rhoi ar ben y ffordd pan oeddwn yn hyfforddi ac roedd bob amser flynyddoedd o flaen ei amser.
Mae gweithio i mi fy hun yn braf iawn, ond dydw i ddim ar fy mhen fy hun ychwaith; mae’r busnes yn tyfu i fod yn sefydliad sy’n llawn pobl ddeallus, ac mae pob un ohonom yn atebol i’n gilydd.
Roedd chwalfa ariannol 2009, tua tair blynedd ar ôl i ni gychwyn, yn ergyd fawr. Aeth â hanner ein trosiant. Penderfynasom ddiogelu ein hased mwyaf, sef ein pobl, drwy gadw pawb gyda’i gilydd yn y busnes. Dyma’r penderfyniad gorau rydym wedi’i wneud erioed.
Fy nghyngor i entrepreneuriaid ifanc yw chwiliwch am bobl sy’n rhannu eich gweledigaeth, ond sy’n dod â syniadau gwahanol.