katie Hayward photo
Katie Hayward
Felin Honeybees
Trosolwg:
Busnes ffermio sydd wedi ennill sawl gwobr yn dysgu pa mor hanfodol yw ein gwenyn mêl bach i bobl o bob oed
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Mae Katie Hayward yn rhedeg cwmni gwenyn mêl, sydd wedi ennill nifer o wobrau, ar Ynys Môn.

Yn ystod y 7 mlynedd ers iddi fod yn rhedeg y busnes, mae hefyd wedi lansio 5 busnes arall ac mae’n rhoi arweiniad ac ysbrydoliaeth i bobl eraill sydd eisiau gwneud yr un peth.

Mae’n gweithio ag amrywiol sectorau gan gynnwys cynnal canolfan therapi i bobl ifanc sy’n hunan-niweidio ac mae’n defnyddio’r gwaith o gadw gwenyn fel therapi i helpu eraill.

Mae Katie hefyd yn gweithio ym myd y cyfryngau ac mae’n aml yn gweithio gyda radio a theledu’r BBC a gwnaed ffilm am ei bywyd gan y cyfarwyddwr William McGregor sydd newydd dderbyn ei 9fed gwobr mewn gwyliau ffilm ym mhob cwr o’r byd.

Ymysg pethau eraill, mae Katie nawr yn awdur cyhoeddedig ar lyfrau plant, llyfrau addysgiadol ac mae wrthi’n gweithio ar ei bywgraffiad cyntaf.