Alex with his App
Alex Coldea
Dill App
Trosolwg:
Dim angen i fyfyrwyr giwio mewn ffreuturau prifysgolion, diolch i app newydd
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)

Mae entrepreneur ifanc 22 oed sydd wedi datblygu app sy’n cynnig gwasanaeth clicio a chasglu ar gyfer cyfleusterau arlwyo mewn prifysgolion bellach wedi’i lansio ar gampysau ledled y DU.

 

Dechreuodd Alex Coldea, myfyrwyr Gwyddorau Cyfrifiadurol o Romania ym Mhrifysgol Abertawe, weithredu ei app, Dill yn gynnar eleni, gan adeiladu platfform sy’n galluogi myfyrwyr a staff i osgoi ciwio ar gampysau prifysgol drwy archebu eu prydau bwyd ar-lein ymlaen llaw.

 

Cafodd y cysyniad ei ddylunio’n wreiddiol i leihau amseroedd aros i staff a myfyrwyr yn ystod eu hamser egwyl, ond ers y pandemig coronafeirws mae Alex wedi cael adborth positif gan brifysgolion a oedd yn gweld buddiannau ffwythiannau digyswllt a gwasanaeth clicio a chasglu’r app, a fyddai’n golygu na fyddai’n rhaid i bobl sefyll mewn ciwiau yn agos at ei gilydd.

 

Meddai Alex: “Ar y dechrau roeddwn yn poeni beth fyddai effaith COVID-19 ar y busnes, ond ar ôl ychydig wythnosau o’r clo, mi benderfynwyd cysylltu â phrifysgolion unwaith eto a chafwyd trafodaethau positif dros ben gan fod yr app yn galluogi myfyrwyr a staff i gadw pellter cymdeithasol. Roeddem yn awyddus i dreulio’r amser yn effeithiol, felly defnyddiwyd y cyfnod clo i weithio ar y platfform i ychwanegu nodweddion newydd, creu gwefan a chael mwy o brifysgolion i ymuno.”

 

Mae Dill yn un o filoedd o fusnesau yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd gan y pandemig coronafeirws. Cafodd yr app ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe cyn cyflwyno’r cyfyngiadau symud, ac er bod Alex yn poeni am ei ddyfodol ar y dechrau pan gaewyd campysau, mae ei waith caled wedi sicrhau y bydd Dill yn cael ei ddefnyddio mewn 50 o wahanol fannau gwerthu bwyd a diod yn y flwyddyn academaidd nesaf ym Mhrifysgol Abertawe ac Imperial College Llundain.

 

Sefydlodd Alex ei fusnes gyda help Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru, ac sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed a hoffai ddatblygu syniad am fusnes.

 

Tra’r oedd yn astudio yn y brifysgol, roedd Alex yn teimlo bod bwytai ar gampysau ar ei hôl hi o ran archebu bwyd. Gwelodd fwlch yn y farchnad a dyna sut y deilliodd Dill. Mae Alex yn awr yn gweithio ar yr app gyda dau o’i ffrindiau, Paul Balan sydd â gradd mewn Gwyddorau Cyfrifiadurol a Rares Dorcioman sy'n fyfyriwr Meistr mewn Peirianneg.

Bydd rhedeg Dill ym Mhrifysgol Abertawe ac Imperial College Llundain yn unig yn golygu eu bod yn gwasanaethu dros 40,000 o fyfyrwyr.

Meddai Alex: “Mae Dill yn galluogi myfyrwyr i archebu a thalu ymlaen llaw am eu bwyd lle bynnag maent ar y campws, sy’n golygu na fydd yn rhaid iddynt dreulio amser yn ciwio yn ystod eu hamser egwyl. I’r busnesau bwyd a diod, mae ganddo’r potensial i gynyddu eu refeniw heb gynyddu costau i’r busnes. Rydym yn cymryd canran fechan o’u gwerthiant ac yn troi cwsmeriaid atynt yn gyfnewid.”

Wrth sôn am Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Alex: “Mae’r holl brofiad wedi bod yn un positif. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod â fy nghynghorydd busnes, Miranda ac mae hi wedi fy helpu i gael cymorth ariannol sydd wedi bod mor werthfawr drwy gydol y cyfnod.”

Ddiwedd y llynedd, ymunodd Alex â 40 o bobl fusnes ifanc eraill yn y digwyddiad preswyl Bwtcamp i Fusnes yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd, y gweithdy deuddydd sy’n cael ei drefnu gan Syniadau Mawr Cymru. Mae’r Bwtcamp yn gyfle i entrepreneuriaid ifanc i ddysgu a mireinio eu sgiliau busnes gyda chyngor a mentora gan bobl fusnes llwyddiannus o Gymru.

 

 

Wrth edrych yn ôl ar y profiad, dywed Alex: “Mi wnes i fwynhau’r Bwtcamp yn fawr. Roedd llawer o bobl yno o bob math o gefndiroedd gyda syniadau amrywiol iawn ar gyfer busnesau, ac roeddwn yn gallu gwneud ffrindiau â phobl â’r un diddordebau â mi. Roedd mor braf cael siarad a chlywed gan bobl sydd wedi llwyddo mewn busnes, ac roeddent i gyd mor barod i rannu eu cyngor gwerthfawr.”

Meddai Miranda Thomas, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n braf gweld bod Alex wedi gwneud gystal â’i fusnes er gwaethaf anawsterau’r pandemig. Mae Alex, ynghyd â’i dîm, wedi gweithio’n hynod o galed i sefydlu’r busnes ac i’w gyflwyno mewn prifysgolion ledled y DU. Alla i ddim aros i weld i ba gyfeiriad fydd y busnes yn mynd nesaf.”

 

Bu Alex hefyd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Big Pitch Prifysgol Abertawe, ac arweiniodd hynny at sicrhau cyllid, ac mae bellach ar y rhestr fer o 80, allan o 1,800, ar Raglen Emerging Santander. Meddai Kelly Jordan, Swyddog Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol

Abertawe: “Mae Alex wedi manteisio i’r eithaf ar bob dim a roddwyd iddo gan y tîm Menter. Mae’n wych gweld Alex a’i fusnes Dill yn mynd o nerth i nerth. Mae’n entrepreneur o’i gorun i’w sawdl, sy’n edrych yn ddi-baid ar y problemau mae wedi’u hwynebu ac yn datblygu datrysiadau’n effeithiol a chyflym i gyrraedd y farchnad ac i wella ei gysyniadau. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Alex wrth i Dill dyfu i’r hyn rydym yn credu a fydd yn fusnes llwyddiannus dros ben.”

Wrth feddwl am y dyfodol, dywed Alex: “Fy nod yw gweld Dill yn weithredol mewn 20 o gampysau prifysgol ledled y wlad erbyn gwanwyn 2021. Gan fod yr app yn galluogi talu digyswllt a chadw pellter cymdeithasol, rwyf yn obeithiol y gallwn gyrraedd y targed hwn. Yn y dyfodol, rwyf yn gobeithio ychwanegu rhagor o nodweddion at yr app i gynnig profiad unigryw i’r defnyddwyr.”

 

Mae Dill ar gael i’w lawrlwytho o’r App Store neu Google Play. Am ragor o wybodaeth am Dill, ewch i: https://mydill.co.uk/