Alexander Pichushkin
Alexander Pichushkin
Inside the Box
Trosolwg:
Brand dillad ymwybodol
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Mae entrepreneur o Brestatyn wedi lansio brand dillad ymwybodol gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru.

Wedi'i sefydlu ym mis Mehefin 2023, mae Inside the Box yn label dillad stryd minimalaidd gyda neges bwerus y tu ôl i bob cynnyrch; i arafu, cofleidio ffordd o fyw syml a dathlu'r pethau bach.

Yn ystod y misoedd ers lansio Inside the Box, mae Alexander Pichushkin, 25 oed, sydd wedi graddio mewn dylunio trafnidiaeth, eisoes wedi rhyddhau dau gasgliad capsiwl o ddillad a wneir i archeb o'i ystafell wely a bydd ei drydydd casgliad yn cael ei gyflwyno’n gynnar yn 2024. 

Er gwaethaf dyluniadau bywiog wedi'u darlunio â llaw, printiau sgwarog wedi'u hysbrydoli gan chwaraeon a ffitiadau strwythuredig, mae cynhyrchion Inside the Box wedi'u cynllunio i atgoffa defnyddwyr i gofleidio ffordd o fyw syml.

Dywedodd Alexander: "Rydym ni i gyd wedi canolbwyntio cymaint ar ddod y gorau a'r mwyaf llwyddiannus nes ein bod ni'n mynd ar goll yn dilyn y delfrydau materol hynny o lwyddiant. Rhywle ar hyd y ffordd, rydym yn anghofio am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig; rhyddid, ffrindiau a theulu. Roeddwn i eisiau adeiladu brand sy'n atgoffa pobl i arafu, mwynhau pethau’r syml mewn bywyd, mynd ar ôl y pethau y maent yn angerddol amdanynt a chysylltu go iawn â'r rhai maen nhw'n eu caru."

Er gwaethaf ei lwyddiant mewn busnes yn ddiweddar, nid oedd Alexander bob amser wedi bwriadu dod yn entrepreneur. Graddiodd Alexander gyda gradd mewn dylunio modurol a thrafnidiaeth o Brifysgol Coventry ond cafodd ei ysbrydoli i ymchwilio i sefydlu ei fusnes ei hun ar ôl gweld effeithiau'r pandemig ar y diwydiant dylunio ceir.

Dywedodd Alexander: "Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd â chwaraeon cyflym, cyffrous fel rasio a sglefrfyrddio ac roeddwn i eisiau mynd i mewn i'r diwydiant hwnnw. Ond ar yr un gwynt, rwyf bob amser wedi cofleidio grym y pethau symlach mewn bywyd ac yn casáu clywed bod yn rhaid i mi 'feddwl y tu allan i'r bocs' er mwyn bod yn llwyddiannus. Felly, lansiais frand sy'n dathlu'r ddau; ffordd syml o fyw a'r llawenydd o wneud y pethau rydych chi'n angerddol yn eu cylch. Pethau sydd mor hawdd eu colli wrth fynd ar drywydd llwyddiant."

Mae dau gasgliad dillad neillrywiol cyntaf Inside the Box yn cynnwys hwdis bywiog a chrysau-t yn amrywio o £34.99 i £64.99. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Alexander wedi ymestyn ei ystod cynnyrch i gynnwys capiau ‘snapback’ a chlipiau allweddi ar ddillad ac mae popeth ar gael mewn meintiau XS i XXXL, ac wedi ail-lansio ei hwdis poblogaidd mewn lliw Nadoligaidd newydd, Brook Green. 

Mae Alexander yn datblygu ei fusnes o gysur ei ystafell wely, ac mae hynny'n cynnwys pecynnu ac anfon archebion i gwsmeriaid. Mae Alexander yn defnyddio blychau brand premiwm i ddosbarthu ei ddillad moethus yn ddiogel a sicrhau bod y dillad yn aros yn y cyflwr gorau posibl.

Dros y saith mis diwethaf, mae Alexander wedi anfon ei ddyluniadau unigryw i brynwyr ledled Ewrop. Mae'r entrepreneur yn rhoi'r holl elw yn ôl i wefan y busnes a’r cynnyrch y mae’n ei gynnig, y pecynnu a’r danfon, gan ddefnyddio arian sy'n weddill i dalu gwniadwragedd ac argraffwyr lleol i argraffu a gwnïo cynhyrchion â llaw a hynny i archeb. 

Lansiodd Alexander Inside the Box gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd, fel rhan o Busnes Cymru, yn anelu at gefnogi unrhyw un rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o'i ymrwymiad i’r Warant i Bobl Ifanc.     

Daeth Alexander ar draws Syniadau Mawr Cymru ar-lein fis Tachwedd y llynedd wrth geisio dod o hyd i gymorth ariannol i fusnesau bach. Yn fuan ar ôl estyn allan, cafodd Alexander ei baru gyda'r cynghorydd busnes Peter Donovan sydd ers hynny wedi ei helpu i adeiladu cynllun busnes a gwirio’r holl agweddau cyfreithlondeb sy’n gysylltiedig â bod yn berchen ar fusnes. 

Cyflwynodd Peter Alexander hefyd i ystod o weithdai sydd ar gael ar-lein, o farchnata ar e-bost i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, a'i gefnogi i wneud cais llwyddiannus am Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc a roddodd Alexander tuag at sicrhau nod masnach ar gyfer y busnes, prynu dillad o safon uchel a phrynu offer angenrheidiol fel argraffwyr labeli a deunydd pecynnu.

Dywedodd Alexander: "Mae'n anghyffredin iawn dod o hyd i wasanaeth sydd mor hael gyda'i gefnogaeth. Mae'r cynghorwyr busnes yn rhoi popeth sydd ganddynt i helpu busnesau fel fy un i hedfan. Allwn i ddim bod yn fwy diolchgar i Syniadau Mawr Cymru am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf."

Dywedodd yr ymgynghorydd busnes, Peter Donovan: "Rwy'n falch iawn o’r hyn y mae Alexander wedi'i gyflawni yn ystod y pum mis diwethaf ers lansio ei fusnes. Mae wedi tywallt ei galon i mewn i Inside the Box i rannu neges gyfredol iawn, i arafu. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Alexander wrth iddo wneud Inside the Box yn arwyddlun o lwyddiant mewn symlrwydd. "

Ar hyn o bryd, mae Alexander yn rhoi cynlluniau ar waith i redeg siopau dros dro mewn digwyddiadau chwaraeon lleol ledled Gogledd Cymru trwy gydol 2024, gan obeithio y gall ddangos i'w 'gymuned symlrwydd' y pŵer o ddod o hyd i lawenydd mewn angerdd a dathlu'r pethau bach mewn bywyd.