Andrew Maund ffoto
Andrew Maund
Challengers
Trosolwg:
Datblygu Sgiliau Arwain a Rheoli
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Rydw i wastad wedi rhedeg busnes bach. Fe ddechreuais fy musnes bach cyntaf pan oeddwn yn 10 oed drwy werthu chwain dŵr byw o lyn i siop anifeiliaid anwes oedd yn gwerthu pysgod trofannol.

"Gweithiwch mewn ffyrdd deallus yn hytrach na gorweithio, a dewiswch amcanion busnes realistig."

Andrew Maund - Challengers

Rydw i wedi dechrau nifer o fusnesau mewn gwahanol feysydd dros y blynyddoedd, ac mae rhai wedi bod yn fwy llwyddiannus na'i gilydd. Mae'r syniadau ar eu cyfer yn dod o wahanol ffynonellau, fel ffrindiau, cydweithwyr, y cyfryngau neu fy rhwydwaith a fy nghysylltiadau busnes.

Mae Challengers yn arbenigo mewn datblygu sgiliau arwain a rheoli. Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o gleientiaid ar draws pob sector er mwyn gwneud gwahaniaeth amlwg i berfformiad unigolion, timau a sefydliadau.

Rydw i wedi gorfod ymdopi â sawl siom yn ystod fy ngyrfa ym myd busnes, fel effeithiau economaidd dirwasgiad hir, colli cytundebau mawr yn annisgwyl, yn ogystal â cholli fy rhieni ac fy mab ifanc.