Artemis Santorinaiou
Artemis Santorinaiou
SUNMAR
Trosolwg:
Llieiniau Traeth Microffibr
Sectorau:
Ynni a Gwasanaethau Amgylcheddol a Nwyddau
Manwerthu
Rhanbarth:
Abertawe

Mae entrepreneur 22 oed o Abertawe yn anelu at newid arferion anghynaladwy cartrefi trwy lansio busnes llieiniau traeth microffibr.

Lansiodd Artemis Santorinaiou, myfyriwr yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, fusnes SUNMAR ar ddechrau 2023 gyda help gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru, sef Syniadau Mawr Cymru. Trwy dynnu sylw at fanteision nwyddau microffibr, mae'r entrepreneur eco-ymwybodol yn gobeithio y gall sbarduno arferion mwy cynaliadwy mewn cartrefi ar draws Abertawe a thu hwnt.

Cyflwynwyd Artemis, sy'n wreiddiol o Athen yng Ngwlad Groeg, i'r cysyniad o ddillad microffibr ar ôl siarad â pherchennog stondin o Ffrainc mewn marchnad ym Mykonos. Ar y pryd roedd yn chwaraewr tenis addawol yn ei harddegau ac yn cystadlu ar draws Gwlad Groeg ar lefel broffesiynol. Cafodd Artemis ei denu gan fanteision amgylcheddol hirdymor niferus y deunydd a newidiodd i ddefnyddio microffibr ei hun.

Ar ôl cael anaf difrifol i'w choes bu’n rhaid i Artemis roi’r gorau i chwarae tenis, a gorfodwyd hi i ystyried llwybr gyrfa newydd. Symudodd i Abertawe lle dechreuodd radd mewn Adnoddau Dynol a Busnes. Yn ddiweddarach, lansiodd SUNMAR ochr yn ochr â'i hastudiaethau i gychwyn ei gyrfa entrepreneuraidd.

Mae llieiniau SUNMAR yn costio £25 yr un ac maen nhw wedi'u gwneud o ficroffibr (80% polyester a 20% polyamid). Mewn ymgais i wneud llieiniau SUNMAR yn wahanol i lieiniau microffibr eraill ar y farchnad, mae Artemis yn gweithio ochr yn ochr ag artistiaid o Wlad Groeg i addurno ei llieiniau gyda gwaith celf pwrpasol. Ar ôl eu cwblhau, mae'r dyluniadau a wneir â llaw yn cael eu hanfon at Artemis sy'n eu hargraffu ar bob lliain yn unigol cyn eu gwerthu ar-lein.

Mae dyluniadau SUNMAR, sydd wedi'u dylanwadu'n fawr gan natur a bywyd morol Gwlad Groeg, ar hyn o bryd yn cynnwys ‘Y Wraig Las’, cyfres o siapiau cysylltiedig sy'n cynrychioli'r morlun cyfnewidiol, a’r 'Corydoras’ a’r ‘Crancod', yn ddelweddau gweladwy o fywyd morol enfawr, lliwgar Gwlad Groeg.

Yn ystod y misoedd nesaf, mae Artemis yn gobeithio cysylltu gyda llond llaw o artistiaid o Abertawe er mwyn creu casgliad o lieiniau, gan argraffu nifer cyfyngedig ohonynt. Mae Artemis yn awyddus i gefnogi artistiaid lleol i gael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n yn ei haeddu, ac ar hyn o bryd mae’n trafod gyda nifer o siopau annibynnol yng nghanol tref Abertawe, sy'n gallu cefnogi cynaliadwyedd yn eu busnesau.

Wrth drafod y deunydd sydd wrth wraidd SUNMAR, meddai Artemis: "Ochr yn ochr â bod yn gryno iawn, gall microffibr amsugno saith gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr a sychu tair gwaith yn gyflymach na chotwm. Mae llieiniau microffibr hefyd yn llawer mwy gwydn na rhai cotwm, ac yn para hyd at 500 gwaith yn hirach rhwng golchiadau ac yn sgil defnydd.

"Gall newid i lieiniau microffibr helpu i leihau’n sylweddol un o'n harferion mwyaf anghynaladwy a difeddwl - golchi dillad. Mae’r ffaith bod microffibr yn sychu’n gynt hefyd yn lleihau'r angen i ddefnyddio peiriant sychu dillad mor aml. Mae hyn nid yn unig o fudd i'r blaned ond i'n pocedi trwy ein helpu i leihau ein biliau ynni ar adeg pan fo llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd.”

Wrth lansio SUNMAR, cafodd Artemis gefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, sy'n rhan o Fusnes Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth wedi ei anelu at unrhyw un rhwng pump a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes, yn cynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o'i ymrwymiad i'r Warant i'r Person Ifanc.

Clywodd Artemis am Syniadau Mawr Cymru am y tro cyntaf ar ôl cysylltu â thîm Menter Prifysgol Abertawe am gymorth busnes. Cyfeiriwyd Artemis at gynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Liz Hopkin, fu'n arwain Artemis drwy'r cymorth busnes oedd ar gael.

Wrth drafod y gefnogaeth a gynigiwyd gan Liz, meddai Artemis: "Er fy mod wedi fy magu o fewn teulu sy’n gyfarwydd â busnes, dim ond ers dwy flynedd yr oeddwn i wedi bod yn byw yn Abertawe a doedd gen i ddim dealltwriaeth wirioneddol o sut roedd busnes yn gweithio yma yn y DU. Arweiniodd Liz fi drwy'r ochr gyfreithlon o fod yn berchen ar fusnes ochr yn ochr â'r holl waith papur angenrheidiol sy'n gallu bod yn frawychus i entrepreneuriaid ifanc. Fe wnaethon ni greu cynllun busnes cadarn, ei gofrestru fel busnes cyfreithiol ac rydyn ni newydd orffen estyn allan i fusnesau i stocio dyluniadau SUNMAR."

Ers hynny, mae Liz wedi cyflwyno Artemis i gyfleoedd  ariannu sydd ar gael drwy Syniadau Mawr Cymru ac mae wedi annog Artemis i fynychu digwyddiadau fel Bŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru, a gyflwynodd yr entrepreneur ifanc i berchnogion busnes o'r un anian gan roi’r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arni i adeiladu busnes llewyrchus.

Wrth drafod taith Artemis, meddai cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Liz Hopkin: "Mae Artemis yn entrepreneur creadigol tu hwnt sydd wedi datblygu cynnyrch sydd nid yn unig yn dal llygaid ond sy'n gallu helpu pobl i droi at arferion mwy cynaliadwy gartref. Dw i wedi dysgu llawer gan fusnes Artemis ac yn cymeradwyo ei hymgyrch i adeiladu busnes yn seiliedig ar addysgu ei chyfoedion."

Meddai Swyddog Menter Prifysgol Abertawe, Angus Phillips: "Dw i’n parhau i ryfeddu a chael fy ysbrydoli gan y busnesau rhagweithiol, meddylgar sy’n cael eu lansio gan ein myfyrwyr ein hunain yma ym Mhrifysgol Abertawe. Gallwn ni i gyd ddysgu llawer o safbwyntiau entrepreneuriaid sy'n dod i'r amlwg fel Artemis sydd, ochr yn ochr â cheisio gwireddu ei breuddwyd busnes, am helpu ein cymunedau i fod yn fwy cynaliadwy a chefnogi ein planed. Mae'r tîm cyfan ym Mhrifysgol Abertawe yn dymuno pob lwc i Artemis yn ei hymdrechion busnes."

Yn y misoedd nesaf mae Artemis yn gobeithio stocio ei dyluniadau mewn llawer mwy o fusnesau o gwmpas Abertawe cyn targedu gwestai lleol a llety Airbnb. Fodd bynnag, prif nod busnes Artemis yw bod yn rhan o farchnadoedd byd-eang - gan wneud cynhyrchion microffibr moethus, ffasiynol yn nwyddau sylfaenol wrth i'r byd ymdrechu i sicrhau arferion mwy cynaliadwy.