Awen haf ffoto
Awen Haf Ashworth
Sbarduno
Trosolwg:
Yn gryno: Cwmni sy’n darparu partïon, gweithdai, pecynnau a fideos arbrofol, i feithrin diddordeb plant ym myd Gwyddoniaeth!
Sectorau:
Amrywiol

Awen ydw i a fy nghwmni yw Sbarduno! Rwyf hefyd yn Llysgennad STEM. Sefydlais y cwmni er mwyn meithrin diddordeb plant ym myd Gwyddoniaeth.

Rwy’n gyn-athrawes Gwyddoniaeth, a bûm yn dysgu Cemeg am bron i 10 mlynedd. Cyn hynny, roeddwn yn gweithio fel Gwyddonydd mewn diwydiant.

Pan oedd fy efeilliaid yn 2 oed, penderfynais gymryd cam yn ôl o ddysgu a gweithio fel swyddog addysg. Yn anffodus, fe ddaeth y swydd honno i ben. Yn ystod y cyfnod roeddwn wedi gweithio gyda thros 3000 o ddisgyblion gan gwrdd â nifer o athrawon.

Sylwais fod yna ddiffyg arbrofion Gwyddonol mewn lleoliadau ac ysgolion Cynradd, a’r rheswm pennaf am hyn oedd y diffyg adnoddau ac arbenigedd o fewn y pwnc. Roedd hi’n anodd iawn i athrawon fod â’r hyder a’r arbenigedd ymhob pwnc.

Mae’r arbrofion rwy’n eu gwneud yn dangos y cyswllt Gwyddonol sy’n bodoli â phopeth o’n cwmpas yn ystod ein bywydau pob dydd. Mae’r profiadau rwy’n gallu eu cynnig yn sicrhau fod y plant yn gallu gweld yn ymarferol pa mor ddiddorol a pherthnasol yw Gwyddoniaeth. Yn ychwanegol i’r arbrofion maent yn datblygu sgiliau allweddol megis datrys problemau, gweithio fel tîm, gweithio’n unigol a datblygu sgiliau motor.

Yn ystod gweithdy mae’r disgyblion yn Wyddonwyr am y diwrnod, ac wrth wisgo cotiau labordy maent yn cynnal cyfres o wahanol arbrofion i'w paratoi a'u tanio ar gyfer pontio i'r ysgol Uwchradd.  Rwy’n gobeitho fod cyflwyno Gwyddoniaeth mewn modd hwyliog, diddorol a gwahanol fel hyn, yn enwedig pan yn ifanc, yn eu hysbrydoli ac yn ennyn chwilfrydedd cynnar yn y maes i nifer ohonynt.

Mae’r swydd yn rhoi’r gorau o’r ddau fyd i mi - yr arbrofi a’r dysgu, heb anghofio hyblygrwydd i weithio o gwmpas gofynion ac anghenion teulu prysur!

Mewn busnes mae gofyn bod yn hyblyg ac addasu o bryd i’w gilydd, a gan i mi wneud hyn yn gynnar iawn, roedd Sbarduo yn gallu cynnig gwasanaethau eraill megis partïon STEM, gweithdai STEM i deuluoedd, pecynnau arbrofi a hyfforddiant i staff, gweithdai gwyliau, sesiynau gloywi ac adolygu TGAU, fideos arbrofol STEM i ddisgyblion Cynradd ac Uwchradd. Yn sgil y Covid-19, rwyf bellach yn cynnig gweithdai rhithiol awr o hyd i ysgolion Cynradd, sy’n rhoi’r cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn 3 arbrawf ymarferol drwy fy nilyn i. Maent yn sesiynau addysgol, arbrofol a hefyd tu hwnt o hwyliog. Mae’r addasiad hwn wedi profi’n llwyddiannus iawn gydag ysgolion ar draws Cymru yn cymryd rhan.

Mae prinder merched ym maes Gwyddoniaeth, ac yn hytrach na gweld hyn yn rwystr, mae hyn wedi bod yn fwy o sbardun ac ysbrydoliaeth i fi.

Rwy’n rhugl yn y Gymraeg ac yn credu ei bod yn bwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i gael eu haddysgu'n ddwyieithog. Teimlaf bod y gallu i gynnig y gwasanaeth yn y Gymraeg yn bendant wedi cyfrannu at lwyddiant y busnes.

Does dim dwywaith, rwy’n ferch brwdfrydig ac yn teimlo bod fy nhaith a stori yrfaol yn un ddiddorol i'w rhannu yn ogystal â bod yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc. Mae’r stori yn dangos taith realistig, sef nad yw pob dim mewn bywyd yn mynd fel mae rhywun yn ei ddisgwyl, ond y neges bwysicaf yw i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.

Weithiau, pan wynebwn yr amgylchiadau mwyaf heriol, mae drysau yn agor a chyfleon annisgwyl yn croesi’n llwybrau. Byddwch yn barod i fanteisio ar bob cyfle; efallai fe welwch chi’ch busnes yn ehangu i gyfeiriad newydd a chyffrous arall!