Biatriz Albo
Beatriz Albo
Sabor de Amor
Trosolwg:
Rhoi bwydydd â blas Sbaenaidd i’r sawl sy’n rhoi gwerth ar flas.
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Wrecsam

Crëwyd Sabor de Amor gan Dr. Beatriz Albo i roi bwydydd â blas Sbaenaidd i’r sawl sy’n rhoi gwerth ar flas ac ansawdd. Gan hanu o deulu â hanes ym maes cynhyrchu bwyd yn ninas brydferth Salamanca yn Sbaen, treuliodd ran fawr o’u gyrfa’n gweithio ym maes bioleg foleciwlaidd ac ymchwil ac addysg bwyd cyn i gariad at flasau Sbaen ei gosod ar y llwybr at ddatblygu ystod o sawsiau, cyffeithiau a chynhyrchion eraill. Gan ddefnyddio ei gwybodaeth wyddonol a’u dulliau ymchwil a oedd wedi’u hen ymarfer mae’n dod o hyd i’r cynhwysion o’r safon orau gan eu crefftio’n gynhyrchion â blasau dwys, naturiol heb ychwanegion, lliwiau artiffisial na chyffeithyddion...Fel y gwelwyd yng nghystadleuaeth 'Top of the Shop' ar BBC2 yn 2018!