Mae Bella Mossman, 24 oed, a Ffion Boyesen, 25 oed, wedi nabod ei gilydd ers oedden nhw’n fabis ac er eu bod wedi mynd i brifysgolion gwahanol, maen nhw wedi dod yn ôl at ei gilydd i greu HUNA, brand dillad nos sy’n defnyddio defnydd cynaliadwy wedi’i wneud â llaw yma yng Nghymru.
Dechreuodd Bella a Ffion eu busnes gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion.
Wrth sôn am sefydlu HUNA, dywedodd Bella: “Ar ôl teimlo’n rhwystredig wrth chwilio am byjamas i ni ein hunain, fe wnaethon ni sylweddoli bod bwlch yn y farchnad ar gyfer pyjamas sydd wedi’i gynllunio ar gyfer noson dda o gwsg ond a oedd hefyd yn gynaliadwy ac wedi’i wneud yn y DU.”
Mae casgliad cyntaf Bella a Ffion, sydd ar gael i’w brynu o siop ar-lein HUNA, yn cynnwys dwy set o ddillad nos; top llewys hir gyda throwser hir a fest gyda throwser byr. Yr ychwanegiad diweddaraf i’r casgliad yw masg llygaid i gysgu wedi’i wneud o ddarnau dros ben o ffabrig naturiol ac elastig eco bioddiraddiadwy, ynghyd â sidan du o stoc dros ben a gwlân wedi’i gwau â llaw, mewn ymdrech bellach i fod yn gynaliadwy. Mae’r casgliadau’n dechrau o £35.
Gan eu bod wedi’u geni a’u magu yng nghefn gwlad Cymru, roedd yr entrepreneuriaid ifanc eisiau sicrhau bod eu gwreiddiau Cymreig wrth galon y busnes. Maen nhw’n manteisio ar sgiliau crefftwyr yn eu milltir sgwâr i greu’r cynnyrch ac yn defnyddio ffabrig a brynwyd mor lleol â phosib.
Dywedodd Ffion: “Mae cynaliadwyedd ym mhob agwedd o’r busnes wedi bod yn flaenoriaeth i ni o’r cychwyn cyntaf, o’r ffabrig a’r elastig i’r deunydd pacio bioddiraddadwy. Rydyn ni’n falch iawn o fyw yng Nghymru felly roedden ni eisiau cadw popeth mor lleol â phosib. Mae hyd yn oed ein labeli’n 100% organig ac yn dod o gwmni yn Ne Cymru.”
Er eu bod wedi cael yr hedyn syniad sawl blwyddyn yn ôl, roedd cyfnod clo cyntaf y coronafeirws wedi rhoi’r amser a’r cyfle i’r merched sefydlu’r busnes HUNA.
Mae’r ddwy yn bartneriaid perffaith - graddiodd Bella mewn seicoleg a busnes o Brifysgol Newcastle a graddiodd Ffion mewn dylunio gwisgoedd o Brifysgol Bournemouth. Golyga hynny fod Bella yn canolbwyntio ar ochr busnes a gweinyddol y fenter tra bod Ffion yn ymgymryd â’r rôl dylunio a’r cyfeiriad creadigol.
Cafodd Bella a Ffion gymorth gan wasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Syniadau Mawr Cymru i lansio HUNA. Wrth sôn am y gwasanaeth, dywedodd Bella: “Ffrind fy mam wnaeth sôn am Syniadau Mawr Cymru ac fe wnaeth hi ein rhoi mewn cysylltiad â’r cynghorydd busnes, Samantha Allen.
“Roedd Samantha yn gefnogol iawn, gan roi cyngor gwerthfawr ar bopeth o ysgrifennu’r cynllun busnes i adnabod y risgiau posib. Gwnaethom hefyd gwblhau cwrs rhad ac am ddim ar sgiliau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd dechrau busnes yn ystod y cyfnod clo yn golygu ein bod yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol i dyfu, felly roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn ac yn sicr fe gyfrannodd at lwyddiant ein lansiad cyntaf. Roedden ni wedi llwyddo i werthu 30 set ymlaen llaw.”
Dywedodd Samantha Allen, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n wych gweld sut mae Bella a Ffion wedi llwyddo i lansio busnes llwyddiannus mewn ychydig fisoedd. Fe wnaethon nhw sylwi ar fwlch yn y farchnad a manteisio ar eu hamser rhydd yn ystod y pandemig i ddechrau eu busnes. Gwnaeth y ddwy greu cryn argraff arna i ac rwy’n gallu gweld eu busnes yn mynd o nerth i nerth.”
Wrth sôn am eu huchelgais i’r dyfodol ar gyfer eu brand dillad nos, dywedodd Ffion: “Ar hyn o bryd rydyn ni’n gwneud llawer o waith ymchwil ar liwio ffabrig yn naturiol er mwyn i ni allu cynnig lliwiau a chynnyrch newydd heb gyfaddawdu ar ein dyluniadau cynaliadwy.”
Ychwanegodd Bella: “Byddai’n wych cael ein stiwdio ein hunain rhyw ddydd a sefydlu partneriaeth â cholegau lleol i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc.”
I gael gwybodaeth am HUNA ewch i: https://www.hunasleep.co.uk/