Mae Entrepreneur Ifanc yn Datblygu ‘Cryfder Craidd’ ar Gyfer ei Busnes Newydd
Mae menyw 22 oed o Sir Benfro wedi lansio busnes Pilates newydd ar ôl ei brwydrau meddygol ei hun.
Sefydlodd Beth Howes, o Narberth, ei busnes Pilates, Beth Howes Pilates yn Hwlffordd, ar ôl i blynyddoedd o fale wedi gadael iddi gyda chefn a phengliniau drwg.
Mae Pilates yn fath o ymarfer corff sy'n canolbwyntio ar gryfhau'r corff gyda phwyslais ar gryfder craidd. Mae'r manteision iechyd yn cynnwys gwella hyblygrwydd yn ogystal â chynyddu cryfder a thôn cyhyrau.
Pan adawodd Beth ysgol, nid oedd unrhyw beth yn y Brifysgol yr oedd hi eisiau astudio a dyna pryd wnaeth hi ddarganfod Pilates mewn dosbarth lleol. Mwynhaodd y wers gymaint dyna pryd sylweddoli mai'r hyn yr oedd hi am ei wneud ar gyfer gyrfa.
Ym mis Mai 2016 dechreuodd hyfforddi i ddod yn hyfforddwr Pilates yn yr Alban, a theithiodd hi'n aml fel rhan o'r cwrs.
Er mwyn gymhwyso wnaeth Beth gwblhau 600 awr o addysgu ac i gwblhau hyn, fe symudodd Beth i fyny i'r Alban am dri mis. Bellach mae Beth yn gymwys fel athro Pilates cynhwysfawr ar ôl gorffen yr oriau dysgu ym mis Rhagfyr 2017.
Dywedodd: "Roeddwn i'n gyffrous iawn pan ddarganfyddais Pilates gan fy mod i wedi bod yn hoff iawn o falet ac roeddwn yn teimlo'n ddigalon pan oedd rhaid i mi roi'r gorau iddi.
"Roedd cwblhau fy hyfforddiant Pilates yn anodd, yn enwedig gyda'r holl deithio i'r Alban, ond nawr rwyf wedi ei chwblhau, mae wedi bod mor werth chweil.
"Mae gweithio yn fy nghymuned leol, a darparu gwasanaeth y gallaf ei weld s’yn helpu pobl â'u ffitrwydd a materion eraill, yn gwneud y gwaith yn werth chweil."
Datblygodd Beth ei busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Fusnes Cymru ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae'r gwasanaeth wedi'i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes.
Meddai Beth: "Ar y dechrau, roeddwn yn nerfus iawn am redeg fy musnes fy hun ac nid oeddwn yn gwybod sut i ddechrau hyd yn oed. Dyna lle chwaraeodd Syniadau Mawr Cymru ran fawr. Roedd David Bannister, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, bob amser yno i gynorthwyo gydag unrhyw gwestiynau a gefais trwy e-bost neu oedd yn gallu cwrdd yn bersonol. Roedd yn wych gwybod fy mod wedi cael y gefnogaeth honno."
Ym mis Mawrth diwethaf, ymunodd Beth â 50 o bobl ifanc eraill yn y digwyddiad preswyl Bŵtcamp i Fusnes yng Nghanolfan yr Urdd yn y Bala, gweithdy tri diwrnod wedi'i hariannu'n llawn a gynhaliwyd gan Syniadau Mawr Cymru. Mae'r Bŵtcamp yn rhoi cyfle i entrepreneuriaid ifanc ddysgu a chreu eu sgiliau busnes gyda chyngor a mentora gan fusnesau llwyddiannus yng Nghymru.
Wrth siarad am y profiad, dywedodd Beth: "Dysgais lawer yn y Bŵtcamp, yn enwedig o'r Modelau Rôl, gan wybod eu bod wedi bod yn yr un sefyllfa â mi, a sut roedden nhw wedi gwneud mor dda. Rhoddodd yr hyder i mi ddeall pe bawn i'n gweithio yn ddigon caled, gallwn i wneud hynny hefyd. Byddwn yn argymell mynychu'n mynychu, er bod fy siwrnai fusnes eisoes wedi dechrau, rhoddodd yr hyder i mi barhau a chaniatais imi gyrraedd lle rwyf nawr.
"Pe bai'n rhaid i mi roi un darn o gyngor i rywun sy'n dechrau busnes, byddaf yn dweud wrthynt i greu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar unwaith. Maent wedi bod yn ffordd wych o gynyddu cleientiaid ac ymwybyddiaeth o'm busnes heb unrhyw gost.
"Ers i'r stiwdio agor, mae fy nhwsmeriaid wedi tyfu'n enfawr yn barod, ac rwyf wedi gweld cymaint o ddiddordeb wrth pobl sydd am gymryd dosbarthiadau. Mae’r cyfan ohwerwydd y grant oeddwn i'n gallu agor fy stiwdio. Fy nod ar gyfer y dyfodol yw cynyddu fy nghwsmeriaid ymhellach a gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o fanteision iechyd Pilates."
Mae David Bannister, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, wedi bod yn gweithio'n agos gyda Beth yn cynnig cyngor i'w helpu i ddatblygu ei busnes ymhellach. Dywedodd: "Mae'n wych gweld pa mor dda mae Beth yn ei wneud gyda'i busnes eisoes. Mae hi'n gweithio'n galed iawn er mwyn tyfu ei busnes, ac ni allaf aros i weld lle mae ei busnes yn mynd yn y dyfodol.”
Bydd y Bwtcamp nesaf ar 17 - 17 Mawrth. Gwnewch gais nawr!