Mae merch ifanc 26 oed o Langadog, Sir Gaerfyrddin, wedi sefydlu busnes creu gemwaith cynaliadwy gan ddefnyddio gwydr a gasglwyd oddi ar draethau lleol.
Dechreuodd Beth Langston ei busnes, Ondine Designs, ddiwedd 2019 yn creu gemwaith arian â llaw gan ddefnyddio gwydr a daflwyd i’r môr ac sydd wedi cael ei lyfnhau a’i siapio gan y môr yn emau bychain llyfn o wydr y môr, y mae hi’n eu canfod ar arfordir Cymru.
Dechreuodd Beth ei busnes gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.
Mae Beth yn gwneud ac yn gwerthu clustdlysau, modrwyau a thlysau am y gwddf, sy’n dechrau o £22, drwy ddigwyddiadau, gwefan e-fasnachu a'r cyfryngau cymdeithasol. Derbyniodd Beth hyfforddiant gof arian, ac mae ei chynlluniau yn defnyddio arian wedi’i ailgylchu lle bynnag y bo’n bosibl, gan ailddefnyddio hen emwaith, offer meddygol a’r diwydiant electroneg.
Dywedodd: “Syrthiais mewn cariad â’r holl broses o greu darn o emwaith gorffenedig. Pan oeddwn i’n hyfforddi i fod yn of arian, cefais fy nghyflwyno i’r defnydd o wydr y môr fel deunydd mewn cynlluniau. Ar ôl treulio diwrnod yn cribo traethau ar arfordir Cymru, sylweddolais y byddai gwydr y môr yn edrych yn wych mewn gemwaith felly dechreuais lunio fy narnau cyntaf. Mae stori y tu ôl i bob pryniant, boed yn gysylltiad â’r môr neu’r ffaith ei fod yn anrheg arbennig i rywun.”
“Mae’r arfordir wastad wedi fy nenu a’m hysbrydoli. Astudiais ddarlunio ym Mhrifysgol Falmouth, felly rhwng byw yno ac yn fy nghartref yn Llangadog, heb fod yn bell o’r arfordir, rydw i wastad wedi darganfod mannau ysbrydoledig a chreadigol i fod ac yn sicr mae wedi atgyfnerthu fy nymuniad i ennill fy mywoliaeth gan ddefnyddio fy sgiliau creadigol.”
Mae Ondine Designs yn un o filoedd o fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd gan y pandemig coronafirws. Yr oedd Beth i fod i fynd â’i chynlluniau i’w gwerthu mewn sawl digwyddiad yn ystod 2020 sydd bellach wedi cael eu canslo, ond bu modd iddi addasu’n gyflym i’r newidiadau, gan ganolbwyntio’i busnes ar e-fasnachu yn lle hynny. Dywedodd: “Er ei bod yn siomedig fod digwyddiadau wedi cael eu canslo, mae’n gwbl anochel ac rydw i wedi gallu ymateb yn gyflym i hyn drwy ganolbwyntio ar werthu ar-lein. Rydw i wedi defnyddio digwyddiadau digidol yn lle, er enghraifft digwyddiad pedwar diwrnod a gynhaliwyd ar Instagram gyda 15 o artistiaid o wahanol ddisgyblaethau. Cwrddais â phobl o’r un meddylfryd ond hefyd tyfodd fy nghynulleidfa gan olygu sawl gwerthiant.”
Yn ystod y cyfyngiadau symud, bu Beth hefyd yn cymryd rhan mewn gweminar am farchnata ar-lein a gynhaliwyd gan Syniadau Mawr Cymru, gyda'r nod o fireinio sgiliau entrepreneuriaid ifanc mewn gwahanol feysydd busnes.
Un o nodau Beth ar gyfer ei busnes yw ei sefydlu yn un ecogyfeillgar, gyda deunyddiau’n cael eu hailgylchu a’u canfod yn lleol ar lannau’r môr. Ychwanegodd: “Mae sicrhau bod fy musnes mor gynaliadwy a charedig â phosibl tuag at y blaned yn bwysig iawn i mi. Mae pob agwedd, o wydr y môr i’r arian, hyd yn oed y pecynnu mor ecogyfeillgar â phosibl.”
Clywodd Beth am Syniadau Mawr Cymru drwy Goleg Gŵyr, lle bu’n dilyn ei chwrs i fod yn of arian. Gan sôn am y gefnogaeth a dderbyniodd, meddai Beth: “Pan gysylltais â Syniadau Mawr Cymru, dim ond syniad oedd gen i. Pennwyd cynghorydd busnes ar fy nghyfer, Miranda Thomas, sydd wedi fy helpu i ddechrau fy musnes drwy gynnig llawer o wybodaeth a chymorth. Pryd bynnag y byddaf yn gadael cyfarfod gyda hi, byddaf yn teimlo fod gen i ffocws ac yn llawn cymhelliant. Os oes gen i gwestiwn am unrhyw beth, mae hi yno, ac mae hynny wedi bod yn gysur gydol yr holl broses.”
Dywedodd Miranda Thomas, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n wych gweld mor dda y mae Beth yn dod ymlaen gyda’i busnes yn barod er gwaethaf yr heriau y mae llawer o fusnesau wedi’u profi eleni. Mae hi wedi gweithio'n galed i sefydlu’r busnes, ac edrychaf ymlaen i weld i ble yr aiff.”